RHAN 5Gwelliannau

Darpariaethau arbed: gwelliannau tenant diogelI111

1

Mae’r darpariaethau yn y rheoliad hwn yn cael effaith er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022 a Rheoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022.

2

Mae adrannau 97(1) a (3)72 (cydsyniad yn ofynnol ar gyfer gwelliannau gan denant), 98 (darpariaethau o ran cydsyniadau sy’n ofynnol gan adran 97), 99 (cydsyniad amodol ar gyfer gwelliannau) a 10073 (pŵer i ad-dalu cost gwelliannau tenant) o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwrnod penodedig mewn perthynas â chontract diogel wedi ei drosi, fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn y diwrnod hwnnw mewn perthynas â thenantiaeth ddiogel, ond dim ond pan fo cais am gydsyniad i wella wedi ei wneud gan y tenant cyn y diwrnod penodedig (pa un a roddir cydsyniad o’r fath cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw).