RHAN 8Digartrefedd
Darpariaeth drosiannol: tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: digartrefeddI116
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan, cyn y diwrnod penodedig—
a
bo gan awdurdod tai lleol ddyletswydd o dan adran 75 o Ddeddf 2014 (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben) i sicrhau bod llety addas ar gael i’w feddiannu gan berson o dan yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (2) neu (3) o’r adran honno; a
b
nad yw dyletswydd yr awdurdod tai lleol o dan adran 75 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r person hwnnw wedi dod i ben yn unol ag adran 76 o Ddeddf 2014 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben).
2
Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, bernir bod y cyfnod hysbysu o 12 mis ym mharagraff 12 o Atodlen 2 i Ddeddf 2016 (tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: digartrefedd) yn cychwyn ar y diwrnod penodedig.
3
Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i baragraff 12(3) o Atodlen 2 i Ddeddf 2016.