Search Legislation

Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022

Newidiadau dros amser i: RHAN 5

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022, RHAN 5. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 5LL+CGwelliannau

Darpariaethau arbed: gwelliannau tenant diogelLL+C

11.—(1Mae’r darpariaethau yn y rheoliad hwn yn cael effaith er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022 a Rheoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022.

(2Mae adrannau 97(1) a (3)(1) (cydsyniad yn ofynnol ar gyfer gwelliannau gan denant), 98 (darpariaethau o ran cydsyniadau sy’n ofynnol gan adran 97), 99 (cydsyniad amodol ar gyfer gwelliannau) a 100(2) (pŵer i ad-dalu cost gwelliannau tenant) o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwrnod penodedig mewn perthynas â chontract diogel wedi ei drosi, fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn y diwrnod hwnnw mewn perthynas â thenantiaeth ddiogel, ond dim ond pan fo cais am gydsyniad i wella wedi ei wneud gan y tenant cyn y diwrnod penodedig (pa un a roddir cydsyniad o’r fath cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 11 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Darpariaethau arbed a darpariaethau trosiannol: digolledu am welliannauLL+C

12.—(1Mae adran 99B(3) o Ddeddf 1985 (personau sy’n gymwys ar gyfer digollediad) a Rheoliadau 1994 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â gwelliannau a wnaed gan denant o dan denantiaeth ddiogel o dan adran 99A o Ddeddf 1985 a ddaeth i ben cyn y diwrnod penodedig (pa un a wnaed cais am ddigollediad cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

(2Heb leihau effaith paragraff (1), pan fo cais am gydsyniad i wella wedi ei wneud gan y tenant cyn y diwrnod penodedig (pa un a roddir cydsyniad o’r fath cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw), mae adran 99B o Ddeddf 1985 a Rheoliadau 1994 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwrnod penodedig mewn perthynas â chontract diogel wedi ei drosi, ond fel pe bai—

(a)cyfeiriad at gontract diogel yn dod i ben yn gyfeiriad at gontract diogel wedi ei drosi yn dod i ben ar ôl y diwrnod penodedig,

(b)adran 99B(2)(b) i (f) a (3) o Ddeddf 1985 wedi ei hepgor (a Rheoliadau 1994 wedi eu dehongli yn unol â hynny), ac

(c)rheoliad 3(2) o Reoliadau 1994 wedi ei hepgor.

(3Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo’r contract diogel wedi ei drosi yn dod i ben ar ôl y diwrnod penodedig oherwydd—

(a)bod y Llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant ar un neu ragor o’r seiliau yn adran 157 (tor contract) neu 160 (seiliau rheoli ystad) o Ddeddf 2016, neu

(b)bod y contract yn peidio â bod yn gontract diogel yn rhinwedd adran 116 o Ddeddf 2016 (gorchymyn sy’n arddodi contract safonol cyfnodol oherwydd ymddygiad gwaharddedig).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 12 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Darpariaethau trosiannol: cynllun hawl i atgyweirioLL+C

13.—(1Pan fo’r tenant, cyn y diwrnod penodedig, wedi cyflwyno hysbysiad yn hawlio’r hawl i atgyweirio o dan baragraff 3 o’r Atodlen i Reoliadau 1985 (hysbysiad tenant yn hawlio’r hawl i atgyweirio), mae Rheoliadau 1985 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwrnod penodedig, fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn y diwrnod hwnnw yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(2Pan fo’n briodol i roi effaith i’r rheoliad hwn, mae Rheoliadau 1985 i’w darllen fel pe bai “or contract holder (within the meaning given by section 7 (see also section 48) of the Renting Homes (Wales) Act 2016) under a secure contract (within the meaning given by section 8 of the Renting Homes (Wales) Act 2016)” wedi ei fewnosod ar ôl “secure tenant”, ym mhob lle y mae’n digwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 13 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

(1)

Diwygiwyd adran 97 gan adran 118 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22) a pharagraffau 2 a 12 o Atodlen 7 iddi ac adran 155 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20).

(2)

Diwygiwyd adran 100 gan adran 194 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 66 o Atodlen 11 iddi, adrannau 103 a 147 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p. 53) a pharagraff 4(2) o Atodlen 1 a Rhan 1 o Atodlen 3 iddi ac erthyglau 12 a 15 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 (O.S. 2002/1860) a pharagraff 2 o Atodlen 4 ac Atodlen 6 iddo.

(3)

Mewnosodwyd adran 99B gan adran 122 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) ac fe’i diwygiwyd gan adrannau 81 a 222 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a pharagraff 13 o Atodlen 18 iddi, adrannau 81 a 261 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) a pharagraff 25 o Atodlen 8, paragraff 19 o Ran 2 o Atodlen 9 ac Atodlen 30 iddi ac adran 66 o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (p. 27) a pharagraff 54 o Atodlen 8 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources