RHAN 4Pennu’r Rhent

Pennu’r RhentI110

1

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1988 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

a

adran 13(4)63 (codiadau rhent o dan denantiaethau cyfnodol sicr), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig;

b

adran 1464 (pennu’r rhent gan dribiwnlys) (heblaw is-adran (6)), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 13 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig (pa un a wneir y cais o dan adran 13(4)(a) cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig);

c

adran 22(3), (4)(a) a (b), a (5)65 (atgyfeirio rhenti gormodol i’r tribiwnlys priodol), mewn perthynas â chais a wnaed o dan is-adran (1) o’r adran honno cyn y diwrnod penodedig.

2

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 197166 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â phenderfynu cais a wneir neu a atgyfeirir o dan adran 667 (pennu telerau tenantiaeth gyfnodol statudol), 1368 (codiadau rhent o dan denantiaethau cyfnodol sicr) neu 2269 (atgyfeirio rhenti gormodol i’r tribiwnlys priodol) o Ddeddf 1988 (pa un a gynhelir y cais, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

3

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Gorchymyn 1988 yn parhau i gael effaith, fel yr oedd yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â phenderfyniad sy’n dod o fewn erthygl 2 o Orchymyn 1988 (pa un a gynhelir y penderfyniad, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

4

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) 199770 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, i’r graddau y maent yn rhagnodi—

a

y ffurflen i’r tenant wneud cais o dan adran 13(4)(a) o Ddeddf 1988 (Ffurflen 5), a

b

y ffurflen ar gyfer cais o dan adran 6(3)(a)71 o Ddeddf 1988 (pennu telerau tenantiaeth gyfnodol statudol) (Ffurflen 2).

5

Mae amrywio’r rhent o dan adran 13, 14 neu 22 o Ddeddf 1988 sy’n digwydd ar ôl y diwrnod penodedig yn rhinwedd yr arbedion a wneir gan y rheoliad hwn i’w drin fel amrywio’r rhent o dan adran 104 neu 123 o Ddeddf 2016 (amrywio’r rhent) at ddiben paragraff 14(2) o Atodlen 12 (amrywio) i Ddeddf 2016.

F16

Mae paragraffau 15(1) a 15(1A) o Atodlen 12 i Ddeddf 2016 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw amrywiadau rhent sy’n digwydd ar ôl y diwrnod penodedig yn rhinwedd yr arbedion a wneir gan y rheoliad hwn, fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw amrywiadau yn y rhent sy’n daladwy o dan y contract cyn y diwrnod penodedig.