NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau arbed a darpariaethau trosiannol mewn perthynas â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“Deddf 2016”).

Mae rheoliadau 2 i 5 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag achosion adennill meddiant. Mae rheoliad 2 yn gymwys i denantiaethau diogel, rheoliad 3 yn gymwys i denantiaethau sicr, rheoliad 4 yn gymwys i denantiaethau rhagarweiniol a rheoliad 5 yn gymwys i denantiaethau isradd.

Mae rheoliadau 6 a 7 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag estyn cyfnod rhagarweiniol. Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adolygiad o’r penderfyniad i estyn y cyfnod rhagarweiniol. Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r weithdrefn ar gyfer adolygu penderfyniad i estyn y cyfnod rhagarweiniol pan fo’r adolygiad, o dan adran 125B o Ddeddf Tai 1996, wedi dechrau cyn y diwrnod penodedig (pa bryd bynnag y daw i ben). Y diwrnod penodedig yw’r diwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru fel y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf 2016 i rym. Mae rheoliad 7 hefyd yn darparu bod Rheoliadau Tenantiaethau Rhagarweiniol (Adolygu Penderfyniadau i Estyn Cyfnod Treialu) (Cymru) 2006 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag adolygiadau y mae rheoliad 7 yn gymwys iddynt.

Mae rheoliadau 8 a 9 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â blaendaliadau tenantiaeth. Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â blaendal tenantiaeth a dalwyd yn unol â Phennod 4 o Ran 6 o Ddeddf Tai 2004 (“Deddf 2004”) cyn y diwrnod penodedig pan fo’r denantiaeth fyrddaliol y talwyd y blaendal hwnnw mewn cysylltiad â hi yn trosi i fod yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod hwnnw. Mae rheoliad 9 yn darparu bod darpariaethau penodol o Ddeddf 2004 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â cheisiadau a wnaed i’r llys sirol cyn y diwrnod penodedig.

Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â phennu rhent o dan Ddeddf Tai 1988 ac yn darparu bod Rheoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971, Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) 1997 a Gorchymyn Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Gwybodaeth am Rent) 1998 yn parhau i gael effaith fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig o dan amgylchiadau penodedig.

Mae rheoliadau 11 i 13 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â gwelliannau. Mae rheoliad 11 yn gwneud arbedion mewn cysylltiad â gwelliannau a wnaed gan denant diogel o dan Ddeddf Tai 1985. Mae rheoliad 12 yn gwneud arbedion a darpariaethau trosiannol mewn cysylltiad â gwelliannau a wnaed gan denant o dan denantiaeth ddiogel a ddaeth i ben cyn y diwrnod penodedig. Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â chynllun hawl tenant diogel i atgyweirio pan fo’r tenant wedi cyflwyno hysbysiad cyn y diwrnod penodedig o dan baragraff 3 o’r Atodlen i Reoliadau Tenantiaethau Diogel (Cynllun Hawl i Atgyweirio) 1985.

Mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth arbed ar gyfer contractau cyfyngedig a thenantiaethau byrddaliol gwarchodedig sy’n bodoli yn union cyn y diwrnod penodedig.

Mae rheoliad 15 yn gwneud darpariaeth arbed ynghylch y diffiniad o ystad methdalwr mewn perthynas â meddianaethau amaethyddol sicr sy’n bodoli yn union cyn y diwrnod penodedig.

Mae rheoliad 16 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r cyfnod hysbysu ym mharagraff 12 o Atodlen 2 i Ddeddf 2016 ar gyfer tenantiaethau a thrwyddedau na chyflawnwyd dyletswydd awdurdod tai lleol o dan adran 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 mewn perthynas â hwy cyn y diwrnod penodedig.

Mae rheoliad 17 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â phennu lwfans tai lleol o dan erthygl 4B o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) 1997, ac Atodlen 3B iddo.

Mae rheoliad 18 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â phennu lwfans tai lleol o dan erthygl 4 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Credyd Cynhwysol) 2013 ac Atodlen 1 iddo.

Mae rheoliad 19 yn gwneud darpariaeth arbed gyffredinol.

Gwneir y Rheoliadau hyn i roi effaith lawn i Ddeddf 2016.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.