Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022

Deddf Rhenti (Amaethyddiaeth) 1976LL+C

8.—(1Mae Deddf Rhenti (Amaethyddiaeth) 1976(1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 4(2) (tenantiaid statudol a thenantiaethau statudol)—

(a)ar ddiwedd is-adran (4), mewnosoder “or, in the case of a dwelling-house in Wales, will be entitled to a secure contract of the dwelling-house by succession”;

(b)ar ôl is-adran (6), mewnosoder—

(7) In this section, “secure contract” has the same meaning as in the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1) (see section 8 of that Act).

(3Yn adran 33(3) (atal dros dro amod sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio)—

(a)yn is-adran (2), ar ôl “a tenancy to which subsection (3) below applies”, mewnosoder “, or an occupation contract to which subsection (3A) below applies”;

(b)ar ôl is-adran (3), mewnosoder—

(3A) This subsection applies to an occupation contract which immediately before the appointed day was an assured agricultural occupancy, within the meaning of Chapter 3 of Part 1 of the Housing Act 1988 (c. 50).;

(c)ar ôl is-adran (5), mewnosoder—

(6) In this section, the following terms have the same meaning as in the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1)

appointed day” (see section 242 of that Act);

occupation contract” (see section 7 of that Act).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 8 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(1)

(2)

Diwygiwyd adran 4 gan adran 76(3) o Ddeddf Tai 1980 (p. 51), adrannau 39 a 140 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) a Rhan 2 o Atodlen 4 iddi, ac Atodlen 18 iddi, adran 81 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) a pharagraff 10 o Atodlen 8 iddi, adran 155 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) a pharagraff 72 o Atodlen 23 iddi, a rheoliad 41(a) o Reoliadau Partneriaeth Sifil (Cyplau o Rywiau Gwahanol) 2019 (O.S. 2019/1458) a pharagraff 4 o Ran 1 o Atodlen 3 iddynt.

(3)

Diwygiwyd adran 33 gan adran 194(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 49 o Atodlen 11 iddi, adran 55 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) a pharagraff 77 o Atodlen 23 iddi, ac adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a pharagraff 4 o Atodlen 7 iddi.