Deddf Tai (Cymru) 2014I134

1

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014147 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn adran 2 (ystyr y prif dermau), yn is-adran (1), yn y diffiniad o “tenantiaeth ddomestig”, yn lle paragraff (a), rhodder—

a

tenantiaeth sy’n gontract meddiannaeth, ac eithrio pan fo’r contract meddiannaeth—

i

yn gontract safonol â chymorth, neu

ii

hefyd yn les hir at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (“Deddf 1993”) neu, yn achos les rhanberchnogaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “shared ownership lease” gan adran 7(7) o Ddeddf 1993), a fyddai’n les o’r fath pe bai cyfran y tenant (o fewn yr ystyr a roddir gan yr adran honno) yn 100 y cant;

3

Yn adran 5 (eithriadau i’r gofyniad i landlord fod yn gofrestredig)—

a

rhifer y ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1);

b

yn is-adran (1), yn lle paragraff (d), rhodder—

d

i landlord sy’n dod o fewn y diffiniad o landlord cymunedol (pa un ai’r landlord yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth ai peidio);

4

Yn adran 8 (eithriadau i ofynion i landlord fod yn drwyddedig)—

a

rhifer y ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1);

b

yn is-adran (1), yn lle paragraff (d), rhodder—

d

i landlord sy’n dod o fewn y diffiniad o landlord cymunedol (pa un ai’r landlord yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth ai peidio);

5

Yn adran 30 (gorchmynion atal rhent), yn is-adran (3), ar ôl paragraff (c), mewnosoder—

ca

mae swm unrhyw ddigollediad sy’n daladwy o dan adran 87 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (digolledu oherwydd methiannau yn ymwneud â darparu datganiadau ysgrifenedig etc.) i’w gyfrifo fel pe na bai’r gorchymyn atal rhent wedi ei wneud,

6

O flaen adran 43, ar ôl y pennawd “Atodol”, mewnosoder—

42ACymhwyso i’r Goron: Rhan 1

Nid yw Rhan 1 o’r Ddeddf hon yn rhwymo’r Goron.

7

Yn adran 44 (cyfyngiad ar derfynu tenantiaethau)—

a

yn is-adran (1)—

i

yn lle “hysbysiad adran 21”, rhodder “hysbysiad o fewn is-adran (1A)”;

ii

yn lle “a honno’n denantiaeth fyrddaliol sicr”, rhodder “sy’n gontract meddiannaeth safonol”;

b

ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

1A

Mae hysbysiad o fewn yr is-adran hon os yw’n hysbysiad—

a

a roddir o dan adran 173(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (hysbysiad y landlord);

b

a roddir o dan adran 186(1) o’r Ddeddf honno (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);

c

fel y’i disgrifir yn adran 194(1) o’r Ddeddf honno (cymal terfynu’r landlord);

d

a roddir o dan baragraff 25B o Atodlen 12 i’r Ddeddf honno (hysbysiad y landlord i derfynu contract safonol cyfnod penodol wedi ei drosi).

c

yn is-adran (2), yn lle “Ond nid yw”, rhodder “Nid yw”;

d

hepgorer is-adran (3).

8

Yn adran 49(1) (dehongli’r Rhan hon a mynegai o dermau wedi eu diffinio), yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

  • mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr ystyr a roddir gan adran 7 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1);

  • mae i “contract meddiannaeth safonol” (“standard occupation contract”) yr ystyr a roddir gan adran 8 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;

  • mae i “landlord cymunedol” (“community landlord”) yr ystyr a roddir gan adran 9 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;

9

Yn adran 76 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben)—

a

yn is-adran (2)—

i

ar ddiwedd paragraff (a), hepgorer “neu”;

ii

ar ôl paragraff (a), mewnosoder—

aa

cynnig o lety addas yng Nghymru o dan denantiaeth sy’n gontract meddiannaeth, neu

iii

ym mharagraff (b), ar ôl “addas”, mewnosoder “(yn Lloegr)”;

b

yn is-adran (4)—

i

yn lle paragraff (a), rhodder—

a

os yw’n gynnig o—

i

tenantiaeth sy’n gontract meddiannaeth a wneir gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas â llety yng Nghymru sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, neu

ii

tenantiaeth fyrddaliol sicr a wneir gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw lety yn Lloegr sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu,

ii

ar ddechrau paragraff (c), mewnosoder “mewn perthynas â llety yn Lloegr,”;

c

yn lle is-adran (9), rhodder—

9

Yn yr adran hon—

  • mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr un ystyr ag yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno);

  • mae i “tenantiaeth cyfnod penodedig” (“fixed term tenancy”) mewn perthynas â llety yn Lloegr yr ystyr a roddir i “fixed term tenancy” yn Rhan 1 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).

10

Yn adran 92 (llety interim: trefniadau â landlord preifat)—

a

yn y pennawd, ar ôl “interim”, mewnosoder “yn Lloegr”;

b

yn is-adran (1), ar ôl “ddarparu llety”, mewnosoder “yn Lloegr”.

11

Ar ôl adran 92, mewnosoder—

92ALlety yng Nghymru

1

Ar gyfer darpariaeth sy’n gymwys pan wneir tenantiaeth neu drwydded mewn cysylltiad â llety yng Nghymru gydag unigolyn gan awdurdod tai lleol oherwydd swyddogaethau’r awdurdod o dan Ran 2 o’r Ddeddf hon (digartrefedd), gweler paragraff 11 o Ran 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: digartrefedd).

2

Ar gyfer darpariaeth sy’n gymwys pan fo awdurdod tai lleol, yn unol ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau darparu tai i’r digartref, yn gwneud trefniadau â landlord perthnasol ar gyfer darparu llety, gweler paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: digartrefedd).

12

Yn adran 99148 (dehongli’r Bennod hon a mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio)—

a

yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

  • mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr un ystyr ag yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno);

b

yn y diffiniad o “landlord preifat”, yn lle “nad yw o fewn adran 80(1) o Ddeddf Tai 1985 (yr amod landlord ar gyfer tenantiaethau diogel)”, rhodder

a

annedd yng Nghymru, sydd o fewn adran 10 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (landlordiaid preifat);

b

annedd yn Lloegr, nad yw o fewn adran 80(1) o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (yr amod landlord ar gyfer tenantiaethau diogel);