xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
26.—(1) Mae Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 19(2) (grantiau cyfleusterau i’r anabl: ceisiadau’r perchennog a’r tenant), yn is-adran (5), ar ôl paragraff (a), mewnosoder—
“(aa)a tenant or licensee under a secure contract within the meaning of the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1) (see section 8 of that Act),
(ab)a tenant or licensee under an introductory standard contract within the meaning of the Renting Homes (Wales) Act 2016 (see section 16 of that Act),”.
(3) Yn adran 59(3) (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio: Pennod 1), yn y tabl, yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
“introductory standard contract | section 19” |
“secure contract | section 19” |
Diwygiwyd adran 19(5) gan erthyglau 11 a 15 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 (O.S. 2002/1860) a pharagraffau 1 a 4 o Atodlen 3 iddo ac Atodlen 6 iddo. Mae diwygiadau eraill i adran 19 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mae diwygiadau i adran 59 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.