(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 255 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“Deddf 2016”).
Mae Deddf 2016 yn darparu y bydd y rhan fwyaf o denantiaethau a thrwyddedau ar gyfer anheddau y mae unigolion yn eu meddiannu fel cartrefi yng Nghymru yn gontractau meddiannaeth. Gall dau fath o gontract meddiannaeth fodoli o dan Ddeddf 2016: contractau diogel (sy’n gontractau cyfnodol) neu gontractau safonol (sydd naill ai’n gontractau cyfnod penodol neu’n gontractau cyfnodol) (gweler adrannau 8 i 17 o Ddeddf 2016). Ni fydd pob tenantiaeth a thrwydded ar gyfer annedd yn gontract meddiannaeth (gweler Atodlen 2 i Ddeddf 2016). Mae Deddf 2016 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch telerau contractau meddiannaeth.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol i adlewyrchu’r darpariaethau newydd yn Neddf 2016.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.