NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio—

a

Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1781) (Cy. 170) (“y Gorchymyn Ffioedd Compartmentau Dofednod”); a

b

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/645) (Cy. 119) (“y Gorchymyn Ffioedd Crynoadau Anifeiliaid”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu darpariaethau yn y Gorchymyn Ffioedd Compartmentau Dofednod sy’n darparu ar hyn o bryd fod Treth ar Werth (TAW) yn cael ei hychwanegu at ffioedd a godir o dan y Gorchymyn hwnnw. Mae hefyd yn cynyddu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am wasanaethau a ddarperir gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion mewn perthynas â’r Gorchymyn Ffioedd Crynoadau Anifeiliaid.

Mae erthygl 2 yn diwygio’r Gorchymyn Ffioedd Compartmentau Dofednod er mwyn hepgor y geiriau “+ TAW” bob tro y maent yn digwydd yn y tabl yn yr Atodlen, fel nad yw TAW yn daladwy bellach mewn cysylltiad â’r ffioedd a nodir yn y tabl.

Mae erthygl 3 yn diwygio’r Gorchymyn Ffioedd Crynoadau Anifeiliaid er mwyn rhoi, yn lle’r Atodlen, Atodlen newydd sy’n darparu ar gyfer ffioedd uwch ar gyfer trwyddedu mangreoedd ar gyfer crynoadau anifeiliaid. Mae’r Atodlen newydd yn darparu fel a ganlyn.

a

Mae Tabl 1 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu ganolfannau casglu nad ydynt yn esempt o dan erthygl 3(4). Mae colofn 2 yn darparu ar gyfer cynnydd interim ar gyfer ceisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny. Mae colofn 3 yn gymwys i geisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar ôl 30 Tachwedd 2023 ac yn darparu ar gyfer cynnydd pellach. Mae’r ffioedd a nodir yng ngholofn 3 yn cynrychioli’r cynnydd canrannol a ganlyn i’r ffioedd cyfredol (wedi ei dalgrynnu i’r cyfanrif agosaf): 48% (rhes 3), 65% (rhes 4), 57% (rhes 5) a 42% (rhes 6).

b

Mae Tabl 2 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer sioeau neu arddangosfeydd nad ydynt yn esempt o dan erthygl 3(4). Mae colofn 2 yn darparu ar gyfer cynnydd interim ar gyfer ceisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny. Mae colofn 3 yn gymwys i geisiadau sy’n dod i law a thrwyddedau a adnewyddir ar ôl 30 Tachwedd 2023 ac yn darparu ar gyfer cynnydd pellach. Mae’r ffioedd a nodir yng ngholofn 3 yn cynrychioli’r cynnydd canrannol a ganlyn i’r ffioedd cyfredol (wedi ei dalgrynnu i’r cyfanrif agosaf): 107% (rhes 3), 67% (rhes 4), 85% (rhes 5), 55% (rhes 6) a 46% (rhes 7).

c

Mae Tabl 3 yn nodi ffioedd atodol sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd. Mae colofn 2 yn darparu ar gyfer cynnydd interim ar gyfer ymweliadau milfeddygol a gynhelir ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny. Mae colofn 3 yn gymwys i ymweliadau milfeddygol a gynhelir ar ôl 30 Tachwedd 2023 ac yn darparu ar gyfer cynnydd pellach. Mae’r ffioedd a nodir yng ngholofn 3 yn cynrychioli’r cynnydd canrannol a ganlyn i’r ffioedd cyfredol (wedi ei dalgrynnu i’r cyfanrif agosaf): 84% (rhesi 3 a 4), 38% (rhes 5) a 5% (rhes 6).

Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaeth drosiannol fel nad yw’r diwygiadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chais a wneir cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.