xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o offerynnau statudol mewn perthynas â chyfansoddiad bwyd. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Mae rheoliadau 2, 4, 6 ac 8 yn dileu esemptiadau penodol ar gyfer cynhyrchion o Aelod-wladwriaethau’r UE neu wledydd yr AEE (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol). Nid yw’r esemptiadau’n briodol mwyach yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio Rheoliadau Bara a Blawd 1998 (O.S. 1998/141), o ran Cymru, i ddarparu esemptiadau newydd ar gyfer bara neu flawd sydd i’w allforio i drydydd gwledydd, neu sydd i’w ddefnyddio yn unig i gynhyrchu bwyd sydd i’w allforio i drydydd gwledydd.
Mae rheoliadau 3, 5, 7 a 9 yn cyflwyno cyfnod trosiannol, sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym ac sy’n dod i ben ar ddiwedd 30 Medi 2022, pan fydd yr esemptiadau sydd wedi eu dileu yn parhau i fod yn gymwys.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW neu oddi ar wefan yr Asiantaeth yn www.food.gov.uk/cy .