ATODLEN 9Awdurdodi paratoad o 6-ffytas (EC 3.1.3.26) (rhif adnabod 4a32) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o ddofednod, adar addurnol, perchyll, moch i’w pesgi, hychod, mân rywogaethau teulu’r moch i’w pesgi neu ar gyfer atgenhedlu
Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sylweddau gwella treuliadwyedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn | 6-ffytas (EC 3.1.3.26) |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 4a32 |
Deiliad yr awdurdodiad | Huvepharma EOOD |
Categori ychwanegion | Ychwanegion sootechnegol |
Grŵp gweithredol | Sylweddau gwella treuliadwyedd |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad o 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir gan Komagataella phaffii DSM 32854 sydd ag isafswm actifedd o 5000 FTU (1)/g ar ffurf ronynnol, araenedig neu hylifol |
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir drwy eplesu â Komagataella phaffii DSM 32854 |
Dulliau dadansoddi(2) | I feintioli actifedd ffytas yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
|
I feintioli actifedd ffytas yn y rhag-gymysgeddau:
| |
I feintioli actifedd ffytas yn y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail |
|
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(6) | 250 FTU/kg |
Uchafswm cynnwys(6) | Dim |
Darpariaethau eraill | Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
(1) FTU = unedau ensym ffytas. Un FTU yw’r swm o’r ensym sy’n rhyddhau 1 micromol (µm) o ffosffad anorganig o sodiwm ffytad y funud o dan amgylchiadau adweithio o pH 5.5 a 37°C. | |
(2) Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “Ares(2020)762221 - 06/02/2020” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 4 Mai 2020. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2019-0052. | |
(3) Llyfr Dull Cymdeithas Sefydliadau Dadansoddi ac Ymchwilio Amaethyddol yr Almaen (VDLUFA), Cyfrol III, Dulliau sengl newydd 2016, Dadansoddi Bwydydd Anifeiliaid yn Gemegol (ISBN 978 3 941273 14 6), https://vdlufa.de. | |
(4) Llyfr Dull Cymdeithas Sefydliadau Dadansoddi ac Ymchwilio Amaethyddol yr Almaen (VDLUFA), Cyfrol III, 8fed atodiad 2012, Dadansoddi Bwydydd Anifeiliaid yn Gemegol (ISBN 978 3 941273 14 6), https://vdlufa.de. | |
(5) O dan y cyfeirnod BS EN ISO 30024:2009 “Animal feeding stuffs. Determination of phytase activity”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 30 Medi 2009 (ISBN 978 0 580 62651 7). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(6) Cynnwys 6-ffytas mewn FTU/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%. | |