ATODLEN 8Adnewyddu awdurdodiad paratoad o Clostridium butyricum FERM BP-2789 (rhif adnabod 4b1830) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy, tyrcwn i’w pesgi, tyrcwn a fegir ar gyfer bridio, mân rywogaethau adar (ac eithrio adar dodwy), perchyll wedi eu diddyfnu a mân rywogaethau teulu’r moch wedi eu diddyfnu, a’i awdurdodi fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi, perchyll sugno a mân rywogaethau teulu’r moch sy’n sugno

Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sefydlogyddion fflora’r perfedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl17.

Yr ychwanegyn

Clostridium butyricum FERM BP-2789

Rhif adnabod yr ychwanegyn

4b1830

Deiliad yr awdurdodiad

Miyarisan Pharmaceutical Co Ltd

Categori ychwanegion

Ychwanegyn sootechnegol

Grŵp gweithredol

Sefydlogyddion fflora’r perfedd

Cyfansoddiad yr ychwanegyn

Paratoad o Clostridium butyricum FERM BP-2789 ar ffurf solet sy’n cynnwys isafswm o 5 × 108 CFU/g o’r ychwanegyn

Nodweddiad y sylwedd(au) actif

Sborau hyfyw Clostridium butyricum FERM BP-2789

Dulliau dadansoddi(1)

Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:

  • Y dull plât arllwys yn seiliedig ar BS ISO 15213:2003(2).

I adnabod straen bacterol:

  • Electrofforesis jel maes pylsedig (PFGE).

Rhywogaeth neu gategori o anifail

  • Ieir i’w pesgi

  • Ieir a fegir ar gyfer dodwy

  • Tyrcwn i’w pesgi

  • Tyrcwn a fegir ar gyfer bridio

  • Mân rywogaethau adar (ac eithrio adar dodwy)

  • Perchyll (sugno ac wedi eu diddyfnu)

  • Mân rywogaethau teulu’r moch (sugno ac wedi eu diddyfnu)

Oedran hynaf

Dim

Isafswm cynnwys(3)

Ar gyfer tyrcwn i’w pesgi a thyrcwn a fegir ar gyfer bridio: 1.25 x 108 CFU/kg

Ar gyfer y rhywogaethau/categorïau eraill: 2.5 x 108 CFU/kg

Uchafswm cynnwys(3)

Dim

Darpariaethau eraill

1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres.

2. Os yw Clostridium butyricum FERM BP-2789 ) i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cocsidiostatau, awdurdodir defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn gyda’r cocsidiostatau a ganlyn yn unig, ac yn unol â’u meini prawf awdurdodi unigol:

  • Decocwinad

  • Deuclaswril

  • Lasalosid A sodiwm

  • Madwramisin amoniwm

  • Monensin sodiwm,

  • Narasin,

  • Narasin/Nicarbasin (i’w defnyddio ar y cyd)

  • Robenidin hydroclorid

  • Salinomisin sodiwm

  • Semdwramisin sodiwm

(1)

Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “JRC.DG.D.6.CvH/DM/hn/ARES (2010)-355411” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mehefin 2016. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2010-0005.

(2)

O dan y cyfeirnod BS ISO 15213:2003 “Microbiology of food and animal feeding stuffs – Horizontal method for the enumeration of sulfite-reducing bacteria growing under anaerobic conditions”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 16 Mai 2003 (ISBN 0 580 41892 8). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com.

(3)

Cynnwys Clostridium butyricum FERM BP-2789 mewn CFU/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%.