Search Legislation

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 8Adnewyddu awdurdodiad paratoad o Clostridium butyricum FERM BP-2789 (rhif adnabod 4b1830) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy, tyrcwn i’w pesgi, tyrcwn a fegir ar gyfer bridio, mân rywogaethau adar (ac eithrio adar dodwy), perchyll wedi eu diddyfnu a mân rywogaethau teulu’r moch wedi eu diddyfnu, a’i awdurdodi fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi, perchyll sugno a mân rywogaethau teulu’r moch sy’n sugno

Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sefydlogyddion fflora’r perfedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl(1).

(1)

Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “JRC.DG.D.6.CvH/DM/hn/ARES (2010)-355411” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mehefin 2016. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2010-0005.

(2)

O dan y cyfeirnod BS ISO 15213:2003 “Microbiology of food and animal feeding stuffs – Horizontal method for the enumeration of sulfite-reducing bacteria growing under anaerobic conditions”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 16 Mai 2003 (ISBN 0 580 41892 8). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com.

(3)

Cynnwys Clostridium butyricum FERM BP-2789 mewn CFU/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%.

Yr ychwanegynClostridium butyricum FERM BP-2789
Rhif adnabod yr ychwanegyn4b1830
Deiliad yr awdurdodiadMiyarisan Pharmaceutical Co Ltd
Categori ychwanegionYchwanegyn sootechnegol
Grŵp gweithredolSefydlogyddion fflora’r perfedd
Cyfansoddiad yr ychwanegynParatoad o Clostridium butyricum FERM BP-2789 ar ffurf solet sy’n cynnwys isafswm o 5 × 108 CFU/g o’r ychwanegyn
Nodweddiad y sylwedd(au) actifSborau hyfyw Clostridium butyricum FERM BP-2789
Dulliau dadansoddi(1)

Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:

  • Y dull plât arllwys yn seiliedig ar BS ISO 15213:2003(2).

I adnabod straen bacterol:

  • Electrofforesis jel maes pylsedig (PFGE).

Rhywogaeth neu gategori o anifail
  • Ieir i’w pesgi

  • Ieir a fegir ar gyfer dodwy

  • Tyrcwn i’w pesgi

  • Tyrcwn a fegir ar gyfer bridio

  • Mân rywogaethau adar (ac eithrio adar dodwy)

  • Perchyll (sugno ac wedi eu diddyfnu)

  • Mân rywogaethau teulu’r moch (sugno ac wedi eu diddyfnu)

Oedran hynafDim
Isafswm cynnwys(3)Ar gyfer tyrcwn i’w pesgi a thyrcwn a fegir ar gyfer bridio: 1.25 x 108 CFU/kg
Ar gyfer y rhywogaethau/categorïau eraill: 2.5 x 108 CFU/kg
Uchafswm cynnwys(3)Dim
Darpariaethau eraill1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres.

2. Os yw Clostridium butyricum FERM BP-2789 ) i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cocsidiostatau, awdurdodir defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn gyda’r cocsidiostatau a ganlyn yn unig, ac yn unol â’u meini prawf awdurdodi unigol:

  • Decocwinad

  • Deuclaswril

  • Lasalosid A sodiwm

  • Madwramisin amoniwm

  • Monensin sodiwm,

  • Narasin,

  • Narasin/Nicarbasin (i’w defnyddio ar y cyd)

  • Robenidin hydroclorid

  • Salinomisin sodiwm

  • Semdwramisin sodiwm

(1)

Mae’r awdurdodiad hwn yn adnewyddu’r awdurdodiadau a roddwyd o dan Reoliadau Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 373/2011, Rhif 374/2013 a Rhif 1108/2014. Mae’r Rheoliadau hynny wedi eu dirymu gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources