ATODLEN 7Awdurdodi paratoad o Bacillus licheniformis DSM 28710 (rhif adnabod 4b1828) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir dodwy, mân rywogaethau dofednod ar gyfer dodwy, rhywogaethau dofednod ar gyfer bridio ac adar addurnol

Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sefydlogyddion fflora’r perfedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.

Yr ychwanegyn

Bacillus licheniformis DSM 28710

Rhif adnabod yr ychwanegyn

4b1828

Deiliad yr awdurdodiad

HuvePharma NV

Categori ychwanegion

Ychwanegyn bwyd anifeiliaid sootechnegol

Grŵp gweithredol

Sefydlogyddion fflora’r perfedd

Cyfansoddiad yr ychwanegyn

Paratoad o Bacillus licheniformis DSM 28710 ar ffurf solet sy’n cynnwys isafswm o 3.2 × 109 CFU/g o ychwanegyn.

Nodweddiad y sylwedd(au) actif

Sborau hyfyw Bacillus licheniformis DSM 28710.

Dulliau dadansoddi(1)

Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:

  • Y dull plât taenu (BS EN 15784:2021(2)).

I adnabod straen bacterol:

  • Electrofforesis Jel Maes Pylsedig (PFGE).

Rhywogaeth neu gategori o anifail

  • Ieir dodwy

  • Mân rywogaethau dofednod ar gyfer dodwy

  • Rhywogaethau dofednod ar gyfer bridio

  • Adar addurnol

Oedran hynaf

Dim

Isafswm cynnwys(3)

1.6 x 109 CFU/kg

Uchafswm cynnwys(3)

Dim

Darpariaethau eraill

1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres.

2. Os yw Bacillus licheniformis DSM 28710 i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cocsidiostatau, awdurdodir defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn gyda’r cocsidiostatau a ganlyn yn unig, ac yn unol â’u meini prawf awdurdodi unigol:

  • Deuclaswril

  • Lasalosid A sodiwm

(1)

Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “Ares(2015)4524025 - 23/10/2015” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mehefin 2016. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2015-0016.

(2)

O dan y cyfeirnod BS EN 15784:2021 “Animal feeding stuffs: Methods of sampling and analysis. Detection and enumeration of Bacillus spp. used as feed additive”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 30 Tachwedd 2021 (ISBN 978 0 580 99829 4). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com.

(3)

Cynnwys Bacillus licheniformis DSM 28710 mewn CFU/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%.