ATODLEN 6Adnewyddu awdurdodiad (ag addasiad) paratoad o Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 (Bacillus Subtilis ATCC PTA-6737 yn flaenorol) (rhif adnabod 4b1823) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi, ieir a fegir ar gyfer dodwy, hwyaid i’w pesgi, soflieir, ffesantod, petris, ieir gini, colomennod, gwyddau i’w pesgi ac estrysiaid, a’i awdurdodi fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid gan estyn y defnydd presennol i gwmpasu pob mân rywogaeth dofednod (ac eithrio ar gyfer dodwy), adar addurnol, adar helwriaeth ac adar hela
Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sefydlogyddion fflora’r perfedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl16.
Yr ychwanegyn | Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 4b1823 |
Deiliad yr awdurdodiad | Kemin Europa N.V. |
Categori ychwanegion | Ychwanegion sootechnegol |
Grŵp gweithredol | Sefydlogyddion fflora’r perfedd |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad o Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 sy’n cynnwys isafswm o 8 x 1010 CFU/g o’r ychwanegyn |
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Sborau hyfyw Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 |
Dulliau dadansoddi(1) | Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
|
I adnabod straen bacterol:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail |
|
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(3) | 1 x 107 CFU/kg |
Uchafswm cynnwys(3) | Dim |
Darpariaethau eraill | 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
2. Os yw Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cocsidiostatau, awdurdodir defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn gyda’r cocsidiostatau a ganlyn yn unig, ac yn unol â’u meini prawf awdurdodi unigol:
| |
(1) Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “D08/FSQ/CVH/SY/Ares(2009)61627” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mehefin 2016. Mae’r ddogfen hon ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2008-0039. | |
(2) Nid yw’r dull hwn yn addas ar gyfer canfod Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 mewn deunyddiau bwyd anifeiliaid na bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar grynodiadau islaw lefel yr isafswm cynnwys. | |
(3) Cynnwys Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 mewn CFU/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%. | |