ATODLEN 5Adnewyddu awdurdodiad paratoad o Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 (Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 yn flaenorol) (rhif adnabod 4b1702) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer lloi magu
Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sefydlogyddion fflora’r perfedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl15.
Yr ychwanegyn | Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 4b1702 |
Deiliad yr awdurdodiad | S.I. Lesaffre |
Categori ychwanegion | Ychwanegion sootechnegol |
Grŵp gweithredol | Sefydlogyddion fflora’r perfedd |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad o Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 ar ffurf solet sy’n cynnwys isafswm o 5x109 CFU/g |
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Celloedd sych hyfyw Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 |
Dulliau dadansoddi(1) | Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
|
Ar gyfer adnabod y straen burum: Y dull adwaith cadwynol polymerasau (PCR) (DD CEN/TS 15790:2008(3)). | |
Rhywogaeth neu gategori o anifail | Lloi magu |
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(4) | 1.5 x 109 CFU/kg |
Uchafswm cynnwys(4) | Dim |
Darpariaethau eraill | Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
(1) Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “JRC.DG.D.6/CvH/DM/mds/ARES(2010)967257” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mehefin 2016. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2010-0038. | |
(2) O dan y cyfeirnod BS EN 15789:2021 “Animal feeding stuffs: Methods of sampling and analysis. Detection and enumeration of Saccharomyces cerevisiae used as feed additive”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 30 Tachwedd 2021 (ISBN 978 0 580 99832 4). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(3) O dan y cyfeirnod DD CEN/TS 15790:2008 “Animal Feeding Stuffs – PCR typing of probiotic strains of Sacccharomyces cerevisiae (yeast)”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 31 Ionawr 2009 (ISBN 978 0 580 61806 2). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(4) Cynnwys Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 mewn CFU/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%. | |