ATODLEN 4Adnewyddu awdurdodiad pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) (rhif adnabod 3a831) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail

Rheoliad 3(1)

Mae’r sylwedd a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “fitaminau, pro-fitamiau a sylweddau wedi eu diffinio’n dda yn gemegol sydd ag effaith debyg”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl14.

Yr ychwanegyn

Pyridocsin hydroclorid (fitamin B6)

Rhif adnabod yr ychwanegyn

3a831

Deiliad yr awdurdodiad

Dim un wedi ei bennu

Categori ychwanegion

Ychwanegion maethol

Grŵp gweithredol

Fitaminau, pro-fitamiau a sylweddau wedi eu diffinio’n dda yn gemegol sydd ag effaith debyg

Cyfansoddiad yr ychwanegyn

Pyridocsin hydroclorid, gyda meini prawf puredd heb fod yn llai na 98.5%

Nodweddiad y sylwedd(au) actif

  • Pyridocsin hydroclorid: C8H11NO3·HCl

  • Rhif CAS(1):58-56-0

  • Rhif EINECS(2): 200-386-2

Dulliau dadansoddi(3)

I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:

  • Titradiad ag asid perclorig (Ph. Eur. 10fed argraffiad, monograff 0245(4)).

I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn rhag-gymysgeddau:

  • Cromatograffaeth Hylif Perfformiad Uchel gwedd wrthdro wedi ei gyplysu â synhwyrydd Uwch Fioled (RP-HPLC-UV) (VDLUFA 13.9.1(5)).

I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn bwyd anifeiliaid a dŵr:  

  • Cromatograffaeth Hylif Perfformiad Uchel gwedd wrthdro wedi ei gyplysu â synhwyrydd fflworoleuedd (RP-HPLC-FLD) – dull yn seiliedig ar BS EN 14164:2014(6).

Rhywogaeth neu gategori o anifail

Pob rhywogaeth o anifail

Oedran hynaf

Dim

Isafswm cynnwys(7)

Dim

Uchafswm cynnwys(7)

Dim

Darpariaethau eraill

1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres ac mewn dŵr.

2. Gellir defnyddio pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn dŵr i’w yfed.

(1)

CAS Registry Number® a neilltuwyd i’r paratoad hwn gan y Gwasanaeth Crynodebu Cemegol https://www.cas.org/cas-data/cas-registry.

(2)

Stocrestr Ewropeaidd o Sylweddau Masnachol Presennol, y rhif fel y’i cyhoeddwyd yn OJ Rhif C 146 A, 15.6.90, t.1.

(3)

Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “JRC.DG.D.6/CvH/GB/ag/ARES(2011)356822” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mehefin 2016. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2010-0139.

(4)

European Pharmacopoeia, Cyfarwyddiaeth Ewropeaidd ar gyfer Ansawdd Meddyginiaethau a Gofal Iechyd, 10fed argraffiad. Cyhoeddwyd 1 Gorffennaf 2019 (ISBN 9789999146111).

(5)

Llyfr Dull Cymdeithas Sefydliadau Dadansoddi ac Ymchwilio Amaethyddol yr Almaen (VDLUFA), Cyfrol III, 6ed atodiad 2006, Dadansoddi Bwydydd Anifeiliaid yn Gemegol (ISBN 978 3 941273 14 6), https://vdlufa.de.

(6)

O dan y cyfeirnod BS EN 14164:2014 “Foodstuffs. Determination of vitamin B6 by high performance chromatography”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 30 Mehefin 2014 (ISBN 978 0 580 77941 1). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com.

(7)

Cynnwys pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn mg o ychwanegyn/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%.