Search Legislation

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 4Adnewyddu awdurdodiad pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) (rhif adnabod 3a831) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail

Mae’r sylwedd a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “fitaminau, pro-fitamiau a sylweddau wedi eu diffinio’n dda yn gemegol sydd ag effaith debyg”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl(1).

(1)

CAS Registry Number® a neilltuwyd i’r paratoad hwn gan y Gwasanaeth Crynodebu Cemegol https://www.cas.org/cas-data/cas-registry.

(2)

Stocrestr Ewropeaidd o Sylweddau Masnachol Presennol, y rhif fel y’i cyhoeddwyd yn OJ Rhif C 146 A, 15.6.90, t.1.

(3)

Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “JRC.DG.D.6/CvH/GB/ag/ARES(2011)356822” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mehefin 2016. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2010-0139.

(4)

European Pharmacopoeia, Cyfarwyddiaeth Ewropeaidd ar gyfer Ansawdd Meddyginiaethau a Gofal Iechyd, 10fed argraffiad. Cyhoeddwyd 1 Gorffennaf 2019 (ISBN 9789999146111).

(5)

Llyfr Dull Cymdeithas Sefydliadau Dadansoddi ac Ymchwilio Amaethyddol yr Almaen (VDLUFA), Cyfrol III, 6ed atodiad 2006, Dadansoddi Bwydydd Anifeiliaid yn Gemegol (ISBN 978 3 941273 14 6), https://vdlufa.de.

(6)

O dan y cyfeirnod BS EN 14164:2014 “Foodstuffs. Determination of vitamin B6 by high performance chromatography”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 30 Mehefin 2014 (ISBN 978 0 580 77941 1). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com.

(7)

Cynnwys pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn mg o ychwanegyn/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%.

Yr ychwanegynPyridocsin hydroclorid (fitamin B6)
Rhif adnabod yr ychwanegyn3a831
Deiliad yr awdurdodiadDim un wedi ei bennu
Categori ychwanegionYchwanegion maethol
Grŵp gweithredolFitaminau, pro-fitamiau a sylweddau wedi eu diffinio’n dda yn gemegol sydd ag effaith debyg
Cyfansoddiad yr ychwanegynPyridocsin hydroclorid, gyda meini prawf puredd heb fod yn llai na 98.5%
Nodweddiad y sylwedd(au) actif
  • Pyridocsin hydroclorid: C8H11NO3·HCl

  • Rhif CAS(1):58-56-0

  • Rhif EINECS(2): 200-386-2

Dulliau dadansoddi(3)

I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:

  • Titradiad ag asid perclorig (Ph. Eur. 10fed argraffiad, monograff 0245(4)).

I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn rhag-gymysgeddau:

  • Cromatograffaeth Hylif Perfformiad Uchel gwedd wrthdro wedi ei gyplysu â synhwyrydd Uwch Fioled (RP-HPLC-UV) (VDLUFA 13.9.1(5)).

I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn bwyd anifeiliaid a dŵr:  

  • Cromatograffaeth Hylif Perfformiad Uchel gwedd wrthdro wedi ei gyplysu â synhwyrydd fflworoleuedd (RP-HPLC-FLD) – dull yn seiliedig ar BS EN 14164:2014(6).

Rhywogaeth neu gategori o anifailPob rhywogaeth o anifail
Oedran hynafDim
Isafswm cynnwys(7)Dim
Uchafswm cynnwys(7)Dim
Darpariaethau eraill1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres ac mewn dŵr.
2. Gellir defnyddio pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn dŵr i’w yfed.
(1)

Mae’r awdurdodiad hwn yn adnewyddu’r awdurdodiad a roddwyd o dan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 515/2011. Mae’r Rheoliad hwnnw wedi ei ddirymu gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources