ATODLEN 3Awdurdodi paratoad o broteas serin (EC 3.4.21.-) a gynhyrchir gan Bacillus licheniformis DSM 19670 (rhif adnabod 4a13) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi

Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sylweddau gwella treuliadwyedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.

Yr ychwanegyn

Proteas serin (EC 3.4.21.-)

Rhif adnabod yr ychwanegyn

4a13

Deiliad yr awdurdodiad

DSM Nutritional Products Ltd (Y Swistir)

Categori ychwanegion

Ychwanegion sootechnegol

Grŵp gweithredol

Sylweddau gwella treuliadwyedd

Cyfansoddiad yr ychwanegyn

Paratoad solet a hylifol o broteas serin (EC 3.4.21.-):

  • a gynhyrchir gan Bacillus licheniformis DSM 19670

  • sydd ag isafswm actifedd o 75,000 PROT(1)/g

Nodweddiad y sylwedd(au) actif

  • Proteas serin (EC 3.4.21.-) a gynhyrchir gan Bacillus licheniformis DSM 19670

  • Rhif CAS(2): 37259-58-8 (proteas serin)

  • Rhif EINECS(3): 253-431-3

  • Rhif IUB(4): 3.4.21.-

Dulliau dadansoddi(5)

I feintioli actifedd proteas serin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y bwyd anifeiliaid cyfansawdd a’r deunyddiau bwyd anifeiliaid:

  • y dull colorimetrig ar sail adwaith ensymatig proteas serin ar y swbstrad Suc-Ala-Ala-Pro-Phe-pNA.

Rhywogaeth neu gategori o anifail

Ieir i’w pesgi

Oedran hynaf

Dim

Isafswm cynnwys(6)

15,000 PROT(1)/kg

Uchafswm cynnwys(6)

Dim

Darpariaethau eraill

Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres.

(1)

Un PROT yw’r swm o broteas serin sy’n rhyddhau un micromol/munud o bara-nitroanilin (pNA) o 1 milimolar (mM) o swbstrad Suc-Ala-Ala-Pro-Phe-pNA ar pH 9 a 37°C.

(2)

CAS Registry Number® a neilltuwyd i’r paratoad hwn gan y Gwasanaeth Crynodebu Cemegol https://www.cas.org/cas-data/cas-registry.

(3)

Stocrestr Ewropeaidd o Sylweddau Masnachol Presennol, y rhif fel y’i cyhoeddwyd yn OJ Rhif C 146 A, 15.6.90, t.1.

(4)

Rhif adnabod a neilltuwyd gan yr Undeb Biocemeg Rhyngwladol (IUB), sef yr Undeb Biocemeg a Bioleg Foleciwlaidd Rhyngwladol (IUBMB) bellach iubmb.org.

(5)

Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “Ares(2019)6802984 - 04/11/2019” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 27 Ionawr 2020. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2019-0010.

(6)

Cynnwys Proteas serin mewn PROT/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%.