ATODLEN 2Awdurdodi paratoad o Lactobacillus buchneri DSM 29026 (rhif adnabod 1k20759) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail

Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion technolegol” ac i’r grŵp gweithredol “ychwanegion silwair”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.

Yr ychwanegyn

Lactobacillus buchneri DSM 29026

Rhif adnabod yr ychwanegyn

1k20759

Deiliad yr awdurdodiad

Dim un wedi ei bennu

Categori ychwanegion

Ychwanegion technolegol

Grŵp gweithredol

Ychwanegion silwair

Cyfansoddiad yr ychwanegyn

Paratoad o Lactobacillus buchneri DSM 29026 sy’n cynnwys isafswm o 2 × 1010 CFU/g o’r ychwanegyn

Nodweddiad y sylwedd(au) actif

Celloedd hyfyw Lactobacillus buchneri DSM 29026

Dulliau dadansoddi(1)

Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:

  • Dull plât taenu ar agar MRS (BS EN 15787:2021(2)).

I adnabod straen bacterol:

  • Electrofforesis jel maes pylsedig (PFGE).

Rhywogaeth neu gategori o anifail

Pob rhywogaeth o anifail

Oedran hynaf

Dim

Isafswm cynnwys(3)

Isafswm cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid pan nad yw wedi ei gyfuno â micro-organeddau eraill fel ychwanegion silwair: 5 x 107 CFU/kg o ddeunydd ffres sy’n hawdd ac yn gymedrol anodd i’w silweirio(4)

Uchafswm cynnwys(3)

Dim

Darpariaethau eraill

Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio.

(1)

Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “Ares(2019)4747322 - 22/07/2019” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 18 Hydref 2019. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2018-0093.

(2)

O dan y cyfeirnod BS EN 15787:2021 “Animal feeding stuffs: Methods of sampling and analysis. Detection and enumeration of Lactobacillus spp. used as feed additive”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 31 Rhagfyr 2021 (ISBN 978 0 580 99831 7). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com

(3)

Cynnwys yr elfen Lactobacillus buchneri DSM 29026 mewn CFU o ychwanegyn/kg o ddeunydd ffres.

(4)

Porthiant hawdd i’w silweirio: > 3% o garbohydradau hydawdd mewn deunydd ffres; porthiant sy’n gymedrol anodd i’w silweirio: 1.5-3.0% o garbohydradau hydawdd yn y deunydd ffres yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 429/2008 ar reolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran llunio a chyflwyno ceisiadau ac asesu ac awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid13.