ATODLEN 11Awdurdodi decocwinad (Avi-Deccox® 60G) (rhif adnabod 51756ii) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi
Mae’r sylwedd decocwinad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “cocsidiostatau a histomonostatau”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl19.
Yr ychwanegyn | Decocwinad (Avi-Deccox® 60G) |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 51756ii |
Deiliad yr awdurdodiad | Zoetis Belgium SA |
Categori ychwanegion | Cocsidiostatau a histomonostatau |
Grŵp gweithredol | Dim |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn |
|
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Decocwinad: (Ethyl 6-desyclocsi-7-ethocsi-4-hydrocsicwinolin-3-carbocsylad) Fformiwla gemegol: C24H35NO5 Rhif CAS(1): 18507-89-6 |
Amhureddau cysylltiedig:
| |
Dulliau dadansoddi(2) | I feintioli decocwinad yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
|
I feintioli decocwinad mewn meinweoedd:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail | Ieir i’w pesgi |
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(5) | 30 mg/kg |
Uchafswm cynnwys(5) | 40 mg/kg |
Darpariaethau eraill | 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
2. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn y bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar ffurf rhag-gymysgedd. | |
3. Ni chaniateir cymysgu decocwinad â chocsidiostatau eraill. | |
4. Ni chaniateir defnyddio decocwinad mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys bentonit. | |
5. Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gynnal rhaglen fonitro ar ôl rhyddhau ar y farchnad ar gyfer ymwrthedd i facteria ac Eimeria spp. Rhaid cyflwyno adroddiad yn cynnwys canlyniad y rhaglen honno i Weinidogion Cymru erbyn diwedd 23 Tachwedd 2031. | |
(1) CAS Registry Number® a neilltuwyd i’r paratoad hwn gan y Gwasanaeth Crynodebu Cemegol https://www.cas.org/cas-data/cas-registry. | |
(2) Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “Ares(2014)2704635 - 18/08/2014” a “JRC.D.5/SFB/CvH/MGH /mds/Ares” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mehefin 2016. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2014-0014. | |
(3) O dan y cyfeirnod BS EN 16162:2012 “Animal feeding stuffs. Determination of decoquinate by HPLC with fluorescence detection”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 31 Mawrth 2012 (ISBN 978 0 580 67002 2). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(4) “Safety and efficacy of Deccox® (decoquinate) for chickens for fattening”. Cyhoeddwyd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) yng Nghyfnodolyn yr EFSA, Cyfrol 17, Rhifyn 1 ar 14 Ionawr 2019. Mae’r ddogfen hon ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://www.efsa.europa.eu/en/efsajournal/pub/5541. | |
(5) Cynnwys decocwinad (Avi-Deccox®) mewn mg/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%. | |