Search Legislation

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 10Awdurdodi decocwinad (Deccox®) (rhif adnabod 51756i) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi

Mae’r sylwedd decocwinad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “cocsidiostatau a histomonostatau”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl(1).

(1)

CAS Registry Number® a neilltuwyd i’r paratoad hwn gan y Gwasanaeth Crynodebu Cemegol https://www.cas.org/cas-data/cas-registry.

(2)

Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “Ares(2013)3639174 - 04/12/2013 ” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mehefin 2016. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2013-0034.

(3)

O dan y cyfeirnod BS EN 16162:2012 “Animal feeding stuffs. Determination of decoquinate by HPLC with fluorescence detection”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 31 Mawrth 2012 (ISBN 978 0 580 67002 2). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com.

(4)

“Safety and efficacy of Deccox® (decoquinate) for chickens for fattening”. Cyhoeddwyd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) yng Nghyfnodolyn yr EFSA, Cyfrol 17, Rhifyn 1 ar 14 Ionawr 2019. Mae’r ddogfen hon ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://www.efsa.europa.eu/en/efsajournal/pub/5541.

(5)

Cynnwys decocwinad (Deccox®) mewn mg/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%.

Yr ychwanegynDecocwinad (Deccox®)
Rhif adnabod yr ychwanegyn51756i
Deiliad yr awdurdodiadZoetis Belgium SA
Categori ychwanegionCocsidiostatau a Histomonostatau
Grŵp gweithredolDim
Cyfansoddiad yr ychwanegyn
  • Decocwinad, 60.0 g/kg

  • Olew soia diarogleuedig puredig, 28.5 g/kg

  • Silica coloidaidd, 0.6 g/kg

  • Eilion gwenith, q.s. 1kg

Nodweddiad y sylwedd(au) actif

Decocwinad: (Ethyl 6-desyclocsi-7-ethocsi-4-hydrocsicwinolin-3-carbocsylad)

  • Fformiwla gemegol: C24H35NO5

  • Rhif CAS(1): 18507-89-6

Amhureddau cysylltiedig:

  • Methyl-6-desyclocsi-7-ethocsi-4-hydrocsicwinolin-3-carbocsilad: < 1.0%

  • Asid 6-desyclocsi-7-ethocsi-4-hydrocsicwinolin-3-carbocsylig: < 0.5%

  • Deuethyl-4-desyclocsi-3-ethocsianilinomethylenemalonad: < 0.5%

Dulliau dadansoddi(2)

I feintioli decocwinad yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:

  • Cromatograffaeth Hylif Perfformiad Uchel gwedd wrthdro wedi ei gyplysu â synhwyrydd fflworoleuedd (RP-HPLC-FL) (BS EN 16162:2012(3)).

I feintioli decocwinad mewn meinweoedd:

  • Cromatograffaeth Hylif Perfformiad Uchel gwedd wrthdro wedi ei gyplysu â sbectrometr màs pedrypol triphlyg (RP-HPLC-MS/MS(4)).

Rhywogaeth neu gategori o anifailIeir i’w pesgi
Oedran hynafDim
Isafswm cynnwys(5)30 mg/kg
Uchafswm cynnwys(5)40 mg/kg
Darpariaethau eraill1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres.
2. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid mewn bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar ffurf rhag-gymysgedd.
3. Ni chaniateir cymysgu decocwinad gyda chocsidiostatau eraill.
4. Ni chaniateir defnyddio decocwinad mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys bentonit.
5. Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gynnal rhaglen fonitro ar ôl rhyddhau ar y farchnad ar gyfer ymwrthedd i facteria ac Eimeria spp. Rhaid cyflwyno adroddiad yn cynnwys canlyniad y rhaglen honno i Weinidogion Cymru erbyn diwedd 23 Tachwedd 2031.
(1)

Mae’r awdurdodiad hwn yn disodli awdurdodiad decocwinad (Deccox®) o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1289/2004. Mae’r Rheoliad hwn wedi ei ddirymu gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn, ond gweler y ddarpariaeth drosiannol yn rheoliad 11. Gweler hefyd Atodlen 11 i’r Rheoliadau hyn sy’n cynnwys ailawdurdodiad ar wahân ar gyfer decocwinad (Deccox®), ond ar ffurf addasedig - decocwinad (Avi-Deccox® 60G).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources