ATODLEN 1Awdurdodi paratoad o gelad manganîs o lysin ac asid glwtamig (rhif adnabod 3b509) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail

Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “cyfansoddion elfennau hybrin”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.

Yr ychwanegyn

Celad manganîs o lysin ac asid glwtamig

Rhif adnabod yr ychwanegyn

3b509

Deiliad yr awdurdodiad

Dim un wedi ei bennu

Categori ychwanegion

Ychwanegion maethol

Grŵp gweithredol

Cyfansoddion elfennau hybrin

Cyfansoddiad yr ychwanegyn

Paratoad o geladau manganîs gyda lysin a cheladau manganîs gydag asid glwtamig mewn cymhareb o 1:1 fel powdr gyda’r cydrannau a ganlyn:

  • Manganîs 15-17%

  • Lysin 20-21.5%

  • Asid glwtamig 22-24%

  • Lleithder – uchafswm o 3.5%

  • Nicel – uchafswm o 4 ppm

Nodweddiad y sylwedd(au) actif

Manganîs-2, asid 6-diaminohecsanoïg, clorid a halwyn hydrogen sylffad (C6H19ClN2O8SMn)

Asid manganîs-2-aminopentanedioïg, sodiwm a halwyn hydrogen sylffad (C5H10NNaO9SMn)

Dulliau dadansoddi(1)

I feintioli cyfanswm y manganîs yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid :

  • Sbectrometreg Amsugniad Atomig (AAS) (BS EN ISO 6869:2001(2)), neu

  • Sbectrometreg Allyriant Atomig â Phlasma a Gyplyswyd yn Anwythol ar ôl treulio drwy bwysedd (ICP-AES) (BS EN 15621:2017(4)).

I feintioli cyfanswm y manganîs yn y rhag-gymysgeddau:

  • Sbectrometreg Amsugniad Atomig (AAS) (BS EN ISO 6869:2001(2)),

  • Sbectrometreg Allyriant Atomig â Phlasma a Gyplyswyd yn Anwythol (ICP-AES) (BS EN 15510:2017(3)),

  • Sbectrometreg Allyriant Atomig â Phlasma a Gyplyswyd yn Anwythol ar ôl treulio drwy bwysedd (ICP-AES) (BS EN 15621:2017(4)), neu

  • Sbectrometreg Màs â Phlasma a Gyplyswyd yn Anwythol (ICP-MS) (BS EN 17053:2018(5)).

I feintioli cyfanswm y manganîs yn y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:

  • Sbectrometreg Amsugniad Atomig (AAS) – Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 152/2009 sy’n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli bwyd anifeiliaid yn swyddogol (Atodiad 4-C)12,

  • Sbectrometreg Amsugniad Atomig (AAS) (BS EN ISO 6869:2001(2)),

  • Sbectrometreg Allyriant Atomig â Phlasma a Gyplyswyd yn Anwythol (ICP-AES) (BS EN 15510:2017(3)),

  • Sbectrometreg Allyriant Atomig â Phlasma a Gyplyswyd yn Anwythol ar ôl treulio drwy bwysedd (ICP-AES) (BS EN 15621:2017(4)), neu

  • Sbectrometreg Màs â Phlasma a Gyplyswyd yn Anwythol (ICP-MS) (BS EN 17053:2018(5)).

I feintioli cynnwys lysin ac asid glwtamig yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:

  • Cromatograffi cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a synhwyrydd ffotometrig (IEC-VIS) (BS EN ISO 13903:2005(6)).

I ganfod ffurf geladedig yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:

  • Sbectrometreg isgoch canol (IR) ynghyd â chanfod cynnwys yr elfennau hybrin a’r lysin a’r asid glwtamig yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid.

Rhywogaeth neu gategori o anifail

Pob rhywogaeth o anifail

Oedran hynaf

Dim

Isafswm cynnwys(7)

Dim

Uchafswm cynnwys(7)

Pysgod: 100mg/kg (cyfanswm)

Pob rhywogaeth arall o anifail: 150mg/kg (cyfanswm)

Darpariaethau eraill

Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn y bwyd anifeiliaid ar ffurf rhag-gymysgedd.

(1)

Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “Ares(2018)3918699 - 24/07/2018” a’r ddogfen sydd â’r cyfeirnod “Ares(2019)7167892 - 20/11/2019” a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 28 Ionawr 2020. Mae’r dogfennau hyn ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2018-0009?search&form-return

(2)

O dan y cyfeirnod BS EN ISO 6869:2001 “Animal feeding stuffs. Determination of the contents of calcium, copper, iron, magnesium, manganese, potassium, sodium and zinc. Method using atomic absorption spectrometry”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 15 Mawrth 2001 (ISBN 0 580 36933 1). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com.

(3)

O dan y cyfeirnod BS EN 15510:2017 “Animal feeding stuffs. Methods of sampling and analysis. Determination of calcium, sodium, phosphorus, magnesium, potassium, iron, zinc, copper, manganese, cobalt, molybdenum and lead by ICP-AES”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 30 Awst 2017 (ISBN 978 0 580 94541 0). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com.

(4)

O dan y cyfeirnod BS EN 15621:2017 “Animal feeding stuffs: Methods of sampling and analysis. Determination of calcium, sodium, phosphorus, magnesium, potassium, sulphur, iron, zinc, copper, manganese and cobalt after pressure digestion by ICP-AES”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 31 Awst 2017 (ISBN 978 0 580 94543 4). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com.

(5)

O dan y cyfeirnod BS EN 17053:2018 “Animal feeding stuffs: Methods of sampling and analysis. Determination of trace elements, heavy metals and other elements in feed by ICP-MS (multi-method)”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 28 Chwefror 2018 (978 0 580 94471 0). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com.

(6)

O dan y cyfeirnod BS EN ISO 13903:2005 “Animal feeding stuffs. Determination of amino acids content”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 24 Hydref 2005 (ISBN 0 580 46218 8). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com.

(7)

Cynnwys yr elfen (Mn) mewn mg/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%.