Darpariaethau trosiannol: Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 (Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 yn flaenorol) (rhif adnabod 4b1702)9

1

Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Mai 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.

2

Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.

3

Yn y rheoliad hwn—

  • mae “yr awdurdodiad ymlaen llaw” (“the prior authorisation”) yn cyfeirio at yr awdurdodiad a gynhwysir yn Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 883/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi defnydd newydd o Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer lloi magu8;

  • mae “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yn cyfeirio at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407, neu fel y’i dynodwyd yn flaenorol, Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 sydd â’r rhif adnabod 4b1702, a awdurdodwyd yn flaenorol o dan yr awdurdodiad ymlaen llaw.