Diwygio awdurdodiadau Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 presennol7
1
Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2276 sy’n ymwneud ag awdurdodiad defnydd newydd o’r paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer hychod7 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.