Diwygio awdurdodiadau Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 presennol5

1

Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 787/2013 sy’n ymwneud ag awdurdodiad paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer tyrcwn i’w pesgi a thyrcwn a fegir ar gyfer bridio5 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.