Diwygio awdurdodiadau Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 presennol4
1
Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 306/2013 sy’n ymwneud ag awdurdodiad paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) ar gyfer perchyll wedi eu diddyfnu a Suidae wedi eu diddyfnu heblaw Sus scrofa domesticus4 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.