Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Rheoliad 1831/2003” (“Regulation 1831/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid;

  • ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio3.

2

Mae i unrhyw ymadrodd Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i ymadrodd Saesneg yn Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yr un ystyr â’r ymadrodd hwnnw yn Rheoliadau’r UE a ddargedwir.