Search Legislation

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Darpariaethau trosiannol: Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 (Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 yn flaenorol) (rhif adnabod 4b1823)

10.—(1Caniateir i unrhyw sylwedd neu gynnyrch a labelwyd “Bacillus subtilis ATCC PTA-6737” neu a labelwyd fel sylwedd neu gynnyrch sy’n cynnwys “Bacillus subtilis ATCC PTA-6737”, ond sydd fel arall wedi cael ei gynhyrchu a’i labelu yn unol ag awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys mewn offeryn a grybwyllir yn rheoliadau 4 i 7, barhau i gael ei roi ar y farchnad a’i ddefnyddio o dan yr awdurdodiad hwnnw.

(2Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Mai 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.

(3Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.

(4Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2024 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.

(5Yn y rheoliad hwn—

mae “yr awdurdodiad ymlaen llaw” (“the prior authorisation”) yn cyfeirio at awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys yn—

  • Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 107/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi(1), neu

  • Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 885/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy, hwyaid i’w pesgi, soflieir, ffesantod, petris, ieir gini, colomennod, gwyddau i’w pesgi ac estrysiaid(2);

mae “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yn cyfeirio at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 neu, fel y’i dynodwyd yn flaenorol, Bacillus subtilis ATCC PTA-6737, sydd â’r rhif adnabod 4b1823, a awdurdodwyd yn flaenorol o dan yr awdurdodiad ymlaen llaw.

(1)

EUR 2010/107. Mae’r Rheoliad hwn wedi ei ddirymu gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn.

(2)

EUR 2011/885. Mae’r Rheoliad hwn wedi ei ddirymu gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources