xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid (“Rheoliad 1831/2003”). Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdodi 11 o ychwanegion bwyd anifeiliaid.

Mae rheoliad 3 ac Atodlenni 1 i 11 yn darparu ar gyfer awdurdodi’r ychwanegion bwyd anifeiliaid a ganlyn—

Mae rheoliad 3(2) yn darparu bod awdurdodiadau a roddir gan y Rheoliadau hyn yn ddilys am gyfnod o ddeng mlynedd yn unol ag Erthygl 9(7) o Reoliad 1831/2003. Mae hyn yn ddarostyngedig i Erthygl 14(4) o’r Rheoliad hwnnw, sy’n darparu ar gyfer estyn cyfnod yr awdurdodiad o dan amgylchiadau penodol pan fo cais i adnewyddu wedi ei gyflwyno.

Mae rheoliadau 4 i 7 yn diwygio pedwar o Reoliadau’r UE a ddargedwir sy’n awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 ar gyfer gwahanol is-grwpiau o ddofednod a moch. Mae enw’r straen bacterol wedi ei ddiweddaru o “Bacillus subtilis” i “Bacillus velezensis”. Mae rheoliad 10(1) yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy’n caniatáu i gynhyrchion a labelwyd gan ddefnyddio’r enw “ Bacillus subtilis” barhau i gael eu marchnata a’u defnyddio o dan yr awdurdodiadau perthnasol er gwaethaf newid yr enw.

Mae rheoliad 8 ac Atodlen 12 yn dirymu, o ran Cymru, Reoliadau’r UE a ddargedwir sy’n cynnwys awdurdodiadau ymlaen llaw ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd bellach wedi eu hawdurdodi gan Atodlenni 3, 4, 5, 6, 8 a 10.

Mae rheoliadau 9, 10(2) i (5) ac 11 yn cynnwys darpariaethau trosiannol sy’n caniatáu parhau i gynhyrchu a labelu cynhyrchion, am gyfnodau cyfyngedig o amser, o dan amodau awdurdodiadau ymlaen llaw o’r ychwanegion bwyd anifeiliaid perthnasol. Caiff yr ychwanegion bwyd anifeiliaid hynny eu hawdurdodi bellach gan Atodlenni 5, 6 a 10 yn y drefn honno.

Gellir cael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfennaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlenni, gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW neu drwy anfon e-bost i regulated.products.wales@food.gov.uk.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.