Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022
Enwi, rhychwant, cymhwyso a chychwyn
1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn—
(a)
yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b)
yn gymwys o ran Cymru;
(c)
yn dod i rym ar 24 Tachwedd 2022.
Dehongli
2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliad 1831/2003” (“Regulation 1831/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid;
(2)
Mae i unrhyw ymadrodd Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i ymadrodd Saesneg yn Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yr un ystyr â’r ymadrodd hwnnw yn Rheoliadau’r UE a ddargedwir.
Awdurdodiadau
3.
(1)
Mae Atodlenni 1 i 11 yn cynnwys awdurdodiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid.
(2)
Yn ddarostyngedig i Erthygl 14(4) (adnewyddu awdurdodiad) o Reoliad 1831/2003, mae’r awdurdodiadau a nodir yn Atodlenni 1 i 11 yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 23 Tachwedd 2032.
Diwygio awdurdodiadau Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 presennol
4.
(1)
(2)
Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.
5.
(1)
(2)
Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.
6.
(1)
(2)
Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.
7.
(1)
(2)
Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.
Dirymiadau
8.
Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 12 wedi eu dirymu.
Darpariaethau trosiannol: Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 (Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 yn flaenorol) (rhif adnabod 4b1702)
9.
(1)
Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Mai 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(2)
Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(3)
Yn y rheoliad hwn—
mae “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yn cyfeirio at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407, neu fel y’i dynodwyd yn flaenorol, Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 sydd â’r rhif adnabod 4b1702, a awdurdodwyd yn flaenorol o dan yr awdurdodiad ymlaen llaw.
Darpariaethau trosiannol: Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 (Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 yn flaenorol) (rhif adnabod 4b1823)
10.
(1)
Caniateir i unrhyw sylwedd neu gynnyrch a labelwyd “Bacillus subtilis ATCC PTA-6737” neu a labelwyd fel sylwedd neu gynnyrch sy’n cynnwys “Bacillus subtilis ATCC PTA-6737”, ond sydd fel arall wedi cael ei gynhyrchu a’i labelu yn unol ag awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys mewn offeryn a grybwyllir yn rheoliadau 4 i 7, barhau i gael ei roi ar y farchnad a’i ddefnyddio o dan yr awdurdodiad hwnnw.
(2)
Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Mai 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(3)
Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(4)
Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2024 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(5)
Yn y rheoliad hwn—
mae “yr awdurdodiad ymlaen llaw” (“the prior authorisation”) yn cyfeirio at awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys yn—
- Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 107/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi9, neu
- Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 885/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy, hwyaid i’w pesgi, soflieir, ffesantod, petris, ieir gini, colomennod, gwyddau i’w pesgi ac estrysiaid10;
mae “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yn cyfeirio at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 neu, fel y’i dynodwyd yn flaenorol, Bacillus subtilis ATCC PTA-6737, sydd â’r rhif adnabod 4b1823, a awdurdodwyd yn flaenorol o dan yr awdurdodiad ymlaen llaw.
Darpariaeth drosiannol: Decocwinad (Deccox®) (rhif adnabod 51756i (E756 yn flaenorol))
11.
(1)
Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a bwyd anifeiliaid sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Mai 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael eu rhoi ar y farchnad a’u defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(2)
Yn y rheoliad hwn—
mae “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yn cyfeirio at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Decocwinad (Deccox®)a awdurdodwyd yn flaenorol o dan yr awdurdodiad ymlaen llaw sydd â’r rhif adnabod E756.
ATODLEN 1Awdurdodi paratoad o gelad manganîs o lysin ac asid glwtamig (rhif adnabod 3b509) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail
Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “cyfansoddion elfennau hybrin”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn | Celad manganîs o lysin ac asid glwtamig |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 3b509 |
Deiliad yr awdurdodiad | Dim un wedi ei bennu |
Categori ychwanegion | Ychwanegion maethol |
Grŵp gweithredol | Cyfansoddion elfennau hybrin |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad o geladau manganîs gyda lysin a cheladau manganîs gydag asid glwtamig mewn cymhareb o 1:1 fel powdr gyda’r cydrannau a ganlyn:
|
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Manganîs-2, asid 6-diaminohecsanoïg, clorid a halwyn hydrogen sylffad (C6H19ClN2O8SMn) Asid manganîs-2-aminopentanedioïg, sodiwm a halwyn hydrogen sylffad (C5H10NNaO9SMn) |
Dulliau dadansoddi(1) | I feintioli cyfanswm y manganîs yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid : |
I feintioli cyfanswm y manganîs yn y rhag-gymysgeddau:
| |
I feintioli cyfanswm y manganîs yn y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
| |
I feintioli cynnwys lysin ac asid glwtamig yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
| |
I ganfod ffurf geladedig yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail | Pob rhywogaeth o anifail |
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(7) | Dim |
Uchafswm cynnwys(7) | Pysgod: 100mg/kg (cyfanswm) |
Pob rhywogaeth arall o anifail: 150mg/kg (cyfanswm) | |
Darpariaethau eraill | Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn y bwyd anifeiliaid ar ffurf rhag-gymysgedd. |
ATODLEN 2Awdurdodi paratoad o Lactobacillus buchneri DSM 29026 (rhif adnabod 1k20759) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail
Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion technolegol” ac i’r grŵp gweithredol “ychwanegion silwair”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn | Lactobacillus buchneri DSM 29026 |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 1k20759 |
Deiliad yr awdurdodiad | Dim un wedi ei bennu |
Categori ychwanegion | Ychwanegion technolegol |
Grŵp gweithredol | Ychwanegion silwair |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad o Lactobacillus buchneri DSM 29026 sy’n cynnwys isafswm o 2 × 1010 CFU/g o’r ychwanegyn |
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Celloedd hyfyw Lactobacillus buchneri DSM 29026 |
Dulliau dadansoddi(1) | Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
|
I adnabod straen bacterol:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail | Pob rhywogaeth o anifail |
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(3) | Isafswm cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid pan nad yw wedi ei gyfuno â micro-organeddau eraill fel ychwanegion silwair: 5 x 107 CFU/kg o ddeunydd ffres sy’n hawdd ac yn gymedrol anodd i’w silweirio(4) |
Uchafswm cynnwys(3) | Dim |
Darpariaethau eraill | Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio. |
ATODLEN 3Awdurdodi paratoad o broteas serin (EC 3.4.21.-) a gynhyrchir gan Bacillus licheniformis DSM 19670 (rhif adnabod 4a13) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi
Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sylweddau gwella treuliadwyedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn | Proteas serin (EC 3.4.21.-) |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 4a13 |
Deiliad yr awdurdodiad | DSM Nutritional Products Ltd (Y Swistir) |
Categori ychwanegion | Ychwanegion sootechnegol |
Grŵp gweithredol | Sylweddau gwella treuliadwyedd |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad solet a hylifol o broteas serin (EC 3.4.21.-):
|
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | |
Dulliau dadansoddi(5) | I feintioli actifedd proteas serin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y bwyd anifeiliaid cyfansawdd a’r deunyddiau bwyd anifeiliaid:
|
Rhywogaeth neu gategori o anifail | Ieir i’w pesgi |
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(6) | 15,000 PROT(1)/kg |
Uchafswm cynnwys(6) | Dim |
Darpariaethau eraill | Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
ATODLEN 4Adnewyddu awdurdodiad pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) (rhif adnabod 3a831) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail
Yr ychwanegyn | Pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 3a831 |
Deiliad yr awdurdodiad | Dim un wedi ei bennu |
Categori ychwanegion | Ychwanegion maethol |
Grŵp gweithredol | Fitaminau, pro-fitamiau a sylweddau wedi eu diffinio’n dda yn gemegol sydd ag effaith debyg |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Pyridocsin hydroclorid, gyda meini prawf puredd heb fod yn llai na 98.5% |
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | |
Dulliau dadansoddi(3) | I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
|
I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn rhag-gymysgeddau:
| |
I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn bwyd anifeiliaid a dŵr:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail | Pob rhywogaeth o anifail |
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(7) | Dim |
Uchafswm cynnwys(7) | Dim |
Darpariaethau eraill | 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres ac mewn dŵr. |
2. Gellir defnyddio pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn dŵr i’w yfed. |
ATODLEN 5Adnewyddu awdurdodiad paratoad o Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 (Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 yn flaenorol) (rhif adnabod 4b1702) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer lloi magu
Yr ychwanegyn | Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 4b1702 |
Deiliad yr awdurdodiad | S.I. Lesaffre |
Categori ychwanegion | Ychwanegion sootechnegol |
Grŵp gweithredol | Sefydlogyddion fflora’r perfedd |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad o Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 ar ffurf solet sy’n cynnwys isafswm o 5x109 CFU/g |
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Celloedd sych hyfyw Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 |
Dulliau dadansoddi(1) | Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
|
Ar gyfer adnabod y straen burum: Y dull adwaith cadwynol polymerasau (PCR) (DD CEN/TS 15790:2008(3)). | |
Rhywogaeth neu gategori o anifail | Lloi magu |
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(4) | 1.5 x 109 CFU/kg |
Uchafswm cynnwys(4) | Dim |
Darpariaethau eraill | Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
ATODLEN 6Adnewyddu awdurdodiad (ag addasiad) paratoad o Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 (Bacillus Subtilis ATCC PTA-6737 yn flaenorol) (rhif adnabod 4b1823) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi, ieir a fegir ar gyfer dodwy, hwyaid i’w pesgi, soflieir, ffesantod, petris, ieir gini, colomennod, gwyddau i’w pesgi ac estrysiaid, a’i awdurdodi fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid gan estyn y defnydd presennol i gwmpasu pob mân rywogaeth dofednod (ac eithrio ar gyfer dodwy), adar addurnol, adar helwriaeth ac adar hela
Yr ychwanegyn | Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 4b1823 |
Deiliad yr awdurdodiad | Kemin Europa N.V. |
Categori ychwanegion | Ychwanegion sootechnegol |
Grŵp gweithredol | Sefydlogyddion fflora’r perfedd |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad o Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 sy’n cynnwys isafswm o 8 x 1010 CFU/g o’r ychwanegyn |
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Sborau hyfyw Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 |
Dulliau dadansoddi(1) | Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
|
I adnabod straen bacterol:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail |
|
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(3) | 1 x 107 CFU/kg |
Uchafswm cynnwys(3) | Dim |
Darpariaethau eraill | 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
2. Os yw Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cocsidiostatau, awdurdodir defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn gyda’r cocsidiostatau a ganlyn yn unig, ac yn unol â’u meini prawf awdurdodi unigol:
|
ATODLEN 7Awdurdodi paratoad o Bacillus licheniformis DSM 28710 (rhif adnabod 4b1828) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir dodwy, mân rywogaethau dofednod ar gyfer dodwy, rhywogaethau dofednod ar gyfer bridio ac adar addurnol
Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sefydlogyddion fflora’r perfedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn | Bacillus licheniformis DSM 28710 |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 4b1828 |
Deiliad yr awdurdodiad | HuvePharma NV |
Categori ychwanegion | Ychwanegyn bwyd anifeiliaid sootechnegol |
Grŵp gweithredol | Sefydlogyddion fflora’r perfedd |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad o Bacillus licheniformis DSM 28710 ar ffurf solet sy’n cynnwys isafswm o 3.2 × 109 CFU/g o ychwanegyn. |
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Sborau hyfyw Bacillus licheniformis DSM 28710. |
Dulliau dadansoddi(1) | Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
|
I adnabod straen bacterol:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail |
|
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(3) | 1.6 x 109 CFU/kg |
Uchafswm cynnwys(3) | Dim |
Darpariaethau eraill | 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
2. Os yw Bacillus licheniformis DSM 28710 i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cocsidiostatau, awdurdodir defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn gyda’r cocsidiostatau a ganlyn yn unig, ac yn unol â’u meini prawf awdurdodi unigol:
|
ATODLEN 8Adnewyddu awdurdodiad paratoad o Clostridium butyricum FERM BP-2789 (rhif adnabod 4b1830) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy, tyrcwn i’w pesgi, tyrcwn a fegir ar gyfer bridio, mân rywogaethau adar (ac eithrio adar dodwy), perchyll wedi eu diddyfnu a mân rywogaethau teulu’r moch wedi eu diddyfnu, a’i awdurdodi fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi, perchyll sugno a mân rywogaethau teulu’r moch sy’n sugno
Yr ychwanegyn | Clostridium butyricum FERM BP-2789 |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 4b1830 |
Deiliad yr awdurdodiad | Miyarisan Pharmaceutical Co Ltd |
Categori ychwanegion | Ychwanegyn sootechnegol |
Grŵp gweithredol | Sefydlogyddion fflora’r perfedd |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad o Clostridium butyricum FERM BP-2789 ar ffurf solet sy’n cynnwys isafswm o 5 × 108 CFU/g o’r ychwanegyn |
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Sborau hyfyw Clostridium butyricum FERM BP-2789 |
Dulliau dadansoddi(1) | Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
|
I adnabod straen bacterol:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail |
|
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(3) | Ar gyfer tyrcwn i’w pesgi a thyrcwn a fegir ar gyfer bridio: 1.25 x 108 CFU/kg |
Ar gyfer y rhywogaethau/categorïau eraill: 2.5 x 108 CFU/kg | |
Uchafswm cynnwys(3) | Dim |
Darpariaethau eraill | 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
2. Os yw Clostridium butyricum FERM BP-2789 ) i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cocsidiostatau, awdurdodir defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn gyda’r cocsidiostatau a ganlyn yn unig, ac yn unol â’u meini prawf awdurdodi unigol:
|
ATODLEN 9Awdurdodi paratoad o 6-ffytas (EC 3.1.3.26) (rhif adnabod 4a32) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o ddofednod, adar addurnol, perchyll, moch i’w pesgi, hychod, mân rywogaethau teulu’r moch i’w pesgi neu ar gyfer atgenhedlu
Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sylweddau gwella treuliadwyedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn | 6-ffytas (EC 3.1.3.26) |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 4a32 |
Deiliad yr awdurdodiad | Huvepharma EOOD |
Categori ychwanegion | Ychwanegion sootechnegol |
Grŵp gweithredol | Sylweddau gwella treuliadwyedd |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Paratoad o 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir gan Komagataella phaffii DSM 32854 sydd ag isafswm actifedd o 5000 FTU
(1)/g ar ffurf ronynnol, araenedig neu hylifol
|
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir drwy eplesu â Komagataella phaffii DSM 32854 |
Dulliau dadansoddi(2) | I feintioli actifedd ffytas yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
|
I feintioli actifedd ffytas yn y rhag-gymysgeddau:
| |
I feintioli actifedd ffytas yn y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail |
|
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(6) | 250 FTU/kg |
Uchafswm cynnwys(6) | Dim |
Darpariaethau eraill | Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
ATODLEN 10Awdurdodi decocwinad (Deccox®) (rhif adnabod 51756i) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi
Yr ychwanegyn | Decocwinad (Deccox®) |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 51756i |
Deiliad yr awdurdodiad | Zoetis Belgium SA |
Categori ychwanegion | Cocsidiostatau a Histomonostatau |
Grŵp gweithredol | Dim |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn |
|
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Decocwinad: (Ethyl 6-desyclocsi-7-ethocsi-4-hydrocsicwinolin-3-carbocsylad)
|
Amhureddau cysylltiedig:
| |
Dulliau dadansoddi(2) | I feintioli decocwinad yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
|
I feintioli decocwinad mewn meinweoedd:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail | Ieir i’w pesgi |
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(5) | 30 mg/kg |
Uchafswm cynnwys(5) | 40 mg/kg |
Darpariaethau eraill | 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
2. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid mewn bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar ffurf rhag-gymysgedd. | |
3. Ni chaniateir cymysgu decocwinad gyda chocsidiostatau eraill. | |
4. Ni chaniateir defnyddio decocwinad mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys bentonit. | |
5. Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gynnal rhaglen fonitro ar ôl rhyddhau ar y farchnad ar gyfer ymwrthedd i facteria ac Eimeria spp. Rhaid cyflwyno adroddiad yn cynnwys canlyniad y rhaglen honno i Weinidogion Cymru erbyn diwedd 23 Tachwedd 2031. |
ATODLEN 11Awdurdodi decocwinad (Avi-Deccox® 60G) (rhif adnabod 51756ii) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi
Yr ychwanegyn | Decocwinad (Avi-Deccox® 60G) |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 51756ii |
Deiliad yr awdurdodiad | Zoetis Belgium SA |
Categori ychwanegion | Cocsidiostatau a histomonostatau |
Grŵp gweithredol | Dim |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn |
|
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | Decocwinad: (Ethyl 6-desyclocsi-7-ethocsi-4-hydrocsicwinolin-3-carbocsylad) Fformiwla gemegol: C24H35NO5 Rhif CAS(1): 18507-89-6 |
Amhureddau cysylltiedig:
| |
Dulliau dadansoddi(2) | I feintioli decocwinad yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
|
I feintioli decocwinad mewn meinweoedd:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail | Ieir i’w pesgi |
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(5) | 30 mg/kg |
Uchafswm cynnwys(5) | 40 mg/kg |
Darpariaethau eraill | 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres. |
2. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn y bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar ffurf rhag-gymysgedd. | |
3. Ni chaniateir cymysgu decocwinad â chocsidiostatau eraill. | |
4. Ni chaniateir defnyddio decocwinad mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys bentonit. | |
5. Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gynnal rhaglen fonitro ar ôl rhyddhau ar y farchnad ar gyfer ymwrthedd i facteria ac Eimeria spp. Rhaid cyflwyno adroddiad yn cynnwys canlyniad y rhaglen honno i Weinidogion Cymru erbyn diwedd 23 Tachwedd 2031. |
ATODLEN 12Dirymu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir
- Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1289/2004 sy’n ymwneud ag awdurdodi am 10 mlynedd yr ychwanegyn Deccox® mewn bwydydd anifeiliaid, sy’n perthyn i’r grŵp o gocsidiostatau a sylweddau meddyginiaethol eraill21.
- Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 903/2009 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad o Clostridium butyricum FERM-BP 2789 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi (deiliad yr awdurdodiad Miyarisan Pharmaceutical Co. Ltd, a gynrychiolir gan Huvepharma NV Belgium)22.
- Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 8/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi’r proteas serin a gynhyrchir gan Bacillus licheniformis (DSM 19670) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi (deiliad yr awdurdodiad DSM Nutritional Products Ltd, a gynrychiolir gan DSM Nutritional Products Sp.Z.o.o)23.
- Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 107/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi (deiliad yr awdurdodiad Kemin Europa NV)24.
- Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 883/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi defnydd newydd o Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer lloi magu (deiliad yr awdurdodiad Société industrielle Lesaffre)25.
- Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 168/2011 sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 107/2010 ynghylch y defnydd o’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys madwramisin amoniwm, monensin sodiwm, narasin, neu robenidin hydroclorid26.
- Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 373/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad o Clostridium butyricum FERM-BP 2789 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer mân rywogaethau adar ac eithrio adar dodwy, perchyll wedi eu diddyfnu a mân rywogaethau teulu’r moch (wedi’u diddyfnu) ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 903/2009 (deiliad yr awdurdodiad Miyarisan Pharmaceutical Co. Ltd, a gynrychiolir gan Huvepharma NV Belgium)27.
- Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 515/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi fitamin B6 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail28.
- Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 885/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy, hwyaid i’w pesgi, soflieir, ffesantod, petris, ieir gini, colomennod, gwyddau i’w pesgi ac estrysiaid (deiliad yr awdurdodiad Kemin Europa NV)29.
- Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 357/2013 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 903/2009 a Rheoliad Gweithredu (EU) Rhif 373/2011 ynghylch isafswm cynnwys paratoad o Clostridium butyricum (FERM BP-2789) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi a mân rywogaethau adar (ac eithrio adar dodwy) (deiliad yr awdurdodiad Miyarisan Pharmaceutical Co. Ltd a gynrychiolir gan Miyarisan Pharmaceutical Europe S.L.U.)30.
- Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 374/2013 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad o Clostridium butyricum (FERM-BP 2789) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy (deiliad yr awdurdodiad Miyarisan Pharmaceutical Co. Ltd a gynrychiolir gan Huvepharma NV Belgium)31.
- Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 291/2014 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1289/2004 ynghylch y cyfnod cadw’n ôl a therfynau gweddillion uchaf yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid decocwinad32.
- Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1108/2014 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad o Clostridium butyricum (FERM-BP 2789) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer tyrcwn a fegir ar gyfer bridio (deiliad yr awdurdodiad Miyarisan Pharmaceutical Co. Ltd a gynrychiolir gan Huvepharma NV Belgium)33.
- Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/1126 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 903/2009 a Rheoliadau Gweithredu (EU) Rhif 373/2011, (EU) Rhif 374/2013 ac (EU) Rhif 1108/2014 ynghylch enw cynrychiolydd yn yr UE ddeiliad awdurdodiad paratoad o Clostridium butyricum (FERM-BP 2789)34.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid (“Rheoliad 1831/2003”). Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdodi 11 o ychwanegion bwyd anifeiliaid.
Mae rheoliad 3 ac Atodlenni 1 i 11 yn darparu ar gyfer awdurdodi’r ychwanegion bwyd anifeiliaid a ganlyn—
mae Atodlen 1 yn awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o gelad manganîs o lysin ac asid glwtamig (rhif adnabod 3b509);
mae Atodlen 2 yn awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o Lactobacillus buchneri DSM 29026 (rhif adnabod 1k20759);
mae Atodlen 3 yn awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o Broteas serin (EC 3.4.21.-) a gynhyrchir gan Bacillus licheniformis (DSM 19670) (rhif adnabod 4a13);
mae Atodlen 4 yn adnewyddu awdurdodiad Pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) (rhif adnabod 3a831);
mae Atodlen 5 yn adnewyddu awdurdodiad paratoad o Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 (rhif adnabod 4b1702). Mae enw’r straen bacterol wedi ei newid o “Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47” i “Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407”;
mae Atodlen 6 yn adnewyddu awdurdodiad paratoad o Bacillus velezensis (ATCC PTA-6737) (rhif adnabod 4b1823) ac yn estyn y defnydd awdurdodedig presennol i gwmpasu pob mân rywogaeth dofednod (ac eithrio ar gyfer dodwy), adar addurnol, adar helwriaeth ac adar hela. Addaswyd yr awdurdodiad fel a ganlyn:
newidir enw’r straen bacterol o “Bacillus subtilis” i “Bacillus velezensis”;
cynyddir isafswm cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn y paratoad o 1x1010 i 8x1010 o unedau ffurfio cytref fesul gram (CFU/g);
mae Atodlen 7 yn awdurdodiad newydd ar gyfer paratoad o Bacillus licheniformis DSM 28710 (rhif adnabod 4b1828);
mae Atodlen 8 yn adnewyddu awdurdodiadau paratoad o Clostridium butyricum (FERM BP-2789) (rhif adnabod 4b1830) ac yn ei awdurdodi ar gyfer defnydd newydd mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi, perchyll sugno a mân rywogaethau teulu’r moch (sugno);
mae Atodlen 9 yn awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o 6-ffytas a gynhyrchir gan Komagataella phaffii DSM 32854 (rhif adnabod 4a32);
mae Atodlen 10 yn awdurdodi fformiwleiddiad newydd o ddecocwinad (Deccox®) (rhif adnabod E756) fel decocwinad (Deccox®) (rhif adnabod 51756i);
mae Atodlen 11 yn awdurdodi ffurf addasedig o ddecocwinad (Deccox®) (rhif adnabod E756) fel decocwinad (Avi-Deccox® 60G) (rhif adnabod 51756ii). Mae’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn wahanol i ddecocwinad (Deccox®) o ran ei ffurf ffisegol ac oherwydd calsiwm sylffad deuhydrad yw’r gwanedydd a ddefnyddir.
Mae rheoliad 3(2) yn darparu bod awdurdodiadau a roddir gan y Rheoliadau hyn yn ddilys am gyfnod o ddeng mlynedd yn unol ag Erthygl 9(7) o Reoliad 1831/2003. Mae hyn yn ddarostyngedig i Erthygl 14(4) o’r Rheoliad hwnnw, sy’n darparu ar gyfer estyn cyfnod yr awdurdodiad o dan amgylchiadau penodol pan fo cais i adnewyddu wedi ei gyflwyno.
Mae rheoliadau 4 i 7 yn diwygio pedwar o Reoliadau’r UE a ddargedwir sy’n awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 ar gyfer gwahanol is-grwpiau o ddofednod a moch. Mae enw’r straen bacterol wedi ei ddiweddaru o “Bacillus subtilis” i “Bacillus velezensis”. Mae rheoliad 10(1) yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy’n caniatáu i gynhyrchion a labelwyd gan ddefnyddio’r enw “ Bacillus subtilis” barhau i gael eu marchnata a’u defnyddio o dan yr awdurdodiadau perthnasol er gwaethaf newid yr enw.
Mae rheoliad 8 ac Atodlen 12 yn dirymu, o ran Cymru, Reoliadau’r UE a ddargedwir sy’n cynnwys awdurdodiadau ymlaen llaw ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd bellach wedi eu hawdurdodi gan Atodlenni 3, 4, 5, 6, 8 a 10.
Mae rheoliadau 9, 10(2) i (5) ac 11 yn cynnwys darpariaethau trosiannol sy’n caniatáu parhau i gynhyrchu a labelu cynhyrchion, am gyfnodau cyfyngedig o amser, o dan amodau awdurdodiadau ymlaen llaw o’r ychwanegion bwyd anifeiliaid perthnasol. Caiff yr ychwanegion bwyd anifeiliaid hynny eu hawdurdodi bellach gan Atodlenni 5, 6 a 10 yn y drefn honno.
Gellir cael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfennaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlenni, gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW neu drwy anfon e-bost i regulated.products.wales@food.gov.uk.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.