Enwi, rhychwant, cymhwyso a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022.
2
Mae’r Rheoliadau hyn—
a
yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
b
yn gymwys o ran Cymru;
c
yn dod i rym ar 24 Tachwedd 2022.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliad 1831/2003” (“Regulation 1831/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid;
ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio3.
2
Mae i unrhyw ymadrodd Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i ymadrodd Saesneg yn Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yr un ystyr â’r ymadrodd hwnnw yn Rheoliadau’r UE a ddargedwir.
Awdurdodiadau3
1
Mae Atodlenni 1 i 11 yn cynnwys awdurdodiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid.
2
Yn ddarostyngedig i Erthygl 14(4) (adnewyddu awdurdodiad) o Reoliad 1831/2003, mae’r awdurdodiadau a nodir yn Atodlenni 1 i 11 yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 23 Tachwedd 2032.
Diwygio awdurdodiadau Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 presennol
4
1
Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 306/2013 sy’n ymwneud ag awdurdodiad paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) ar gyfer perchyll wedi eu diddyfnu a Suidae wedi eu diddyfnu heblaw Sus scrofa domesticus4 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.
5
1
Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 787/2013 sy’n ymwneud ag awdurdodiad paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer tyrcwn i’w pesgi a thyrcwn a fegir ar gyfer bridio5 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.
6
1
Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1020 sy’n ymwneud ag awdurdodiad paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir dodwy a mân rywogaethau dofednod ar gyfer dodwy6 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.
7
1
Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2276 sy’n ymwneud ag awdurdodiad defnydd newydd o’r paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer hychod7 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.
Dirymiadau8
Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 12 wedi eu dirymu.
Darpariaethau trosiannol: Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 (Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 yn flaenorol) (rhif adnabod 4b1702)9
1
Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Mai 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
2
Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
3
Yn y rheoliad hwn—
mae “yr awdurdodiad ymlaen llaw” (“the prior authorisation”) yn cyfeirio at yr awdurdodiad a gynhwysir yn Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 883/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi defnydd newydd o Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer lloi magu8;
mae “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yn cyfeirio at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407, neu fel y’i dynodwyd yn flaenorol, Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 sydd â’r rhif adnabod 4b1702, a awdurdodwyd yn flaenorol o dan yr awdurdodiad ymlaen llaw.
Darpariaethau trosiannol: Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 (Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 yn flaenorol) (rhif adnabod 4b1823)10
1
Caniateir i unrhyw sylwedd neu gynnyrch a labelwyd “Bacillus subtilis ATCC PTA-6737” neu a labelwyd fel sylwedd neu gynnyrch sy’n cynnwys “Bacillus subtilis ATCC PTA-6737”, ond sydd fel arall wedi cael ei gynhyrchu a’i labelu yn unol ag awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys mewn offeryn a grybwyllir yn rheoliadau 4 i 7, barhau i gael ei roi ar y farchnad a’i ddefnyddio o dan yr awdurdodiad hwnnw.
2
Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Mai 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
3
Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
4
Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2024 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
5
Yn y rheoliad hwn—
mae “yr awdurdodiad ymlaen llaw” (“the prior authorisation”) yn cyfeirio at awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys yn—
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 107/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi9, neu
Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 885/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy, hwyaid i’w pesgi, soflieir, ffesantod, petris, ieir gini, colomennod, gwyddau i’w pesgi ac estrysiaid10;
mae “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yn cyfeirio at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 neu, fel y’i dynodwyd yn flaenorol, Bacillus subtilis ATCC PTA-6737, sydd â’r rhif adnabod 4b1823, a awdurdodwyd yn flaenorol o dan yr awdurdodiad ymlaen llaw.
Darpariaeth drosiannol: Decocwinad (Deccox®) (rhif adnabod 51756i (E756 yn flaenorol))11
1
Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a bwyd anifeiliaid sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Mai 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael eu rhoi ar y farchnad a’u defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
2
Yn y rheoliad hwn—
mae “yr awdurdodiad ymlaen llaw” (“the prior authorisation”) yn cyfeirio at yr awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1289/2004 sy’n ymwneud ag awdurdodi am 10 mlynedd yr ychwanegyn Deccox® mewn bwydydd anifeiliaid, sy’n perthyn i’r grŵp o gocsidiostatau a sylweddau meddyginiaethol eraill11;
mae “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yn cyfeirio at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Decocwinad (Deccox®)a awdurdodwyd yn flaenorol o dan yr awdurdodiad ymlaen llaw sydd â’r rhif adnabod E756.