Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn sefydlu fframwaith newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer plant a disgyblion yng Nghymru (“y Cwricwlwm newydd i Gymru”).
Bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei gyflwyno i blant a disgyblion fesul cam. Daw’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn fandadol ar gyfer y grwpiau blwyddyn mewn ysgolion a lleoliadau eraill fel a ganlyn—
ar 1 Medi 2022 ar gyfer—
plant sy’n cael addysg feithrin,
disgyblion yn eu blwyddyn derbyn,
disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6,
ar 1 Medi 2022 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 7 yn yr ysgolion hynny a’r lleoliadau eraill hynny lle y mae cwricwlwm wedi ei ddarparu yn unol â Deddf 2021,
ar 1 Medi 2023 ar gyfer plant a disgyblion sydd, ar 1 Medi 2022, ym mlwyddyn 7 ac nad ydynt o fewn paragraff (b),
ar 1 Medi 2023 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 8,
ar 1 Medi 2024 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 9,
ar 1 Medi 2025 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 10, ac
ar 1 Medi 2026 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 11.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â phlant a disgyblion y darperir addysg iddynt—
mewn ysgolion a gynhelir,
mewn ysgolion meithrin a gynhelir,
gan ddarparwyr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir,
mewn unedau cyfeirio disgyblion, ac
gan bersonau sy’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996.
Cychwynnwyd Rhan 7 o Ddeddf 2021, gan gynnwys adran 73 ac Atodlen 2 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau), gan adran 84(1) o Ddeddf 2021 ar 30 Ebrill 2021, drannoeth y Cydsyniad Brenhinol. Er mwyn darparu ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru fesul cam mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth arbed a darpariaeth drosiannol mewn perthynas â’r plant hynny a’r disgyblion hynny nad yw addysg yn cael ei darparu iddynt eto o dan y Cwricwlwm newydd i Gymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.