Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022
Enwi a chychwyn1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2022.
Dehongli2.
Diwygiadau i Reoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 20223.
(1)
(2)
“2.
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” gan adran 1(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19926;mae i “categori o anheddau” yr ystyr a roddir i “category of dwellings” gan adran 30(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19927;mae i “contract wedi ei drosi perthnasol” (“relevant converted contract”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler paragraff 15(3)8 o Atodlen 12 i’r Ddeddf);ystyr “deiliad contract perthnasol” (“relevant contract-holder”) yw deiliad contract (y mae iddo’r ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 7(5)) o dan gontract wedi ei drosi perthnasol;
mae i “y diwrnod penodedig” (“appointed day”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 242);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;
ystyr “gwelliant perthnasol” (“relevant improvement”) yw gwelliant—
(a)
a wnaed yn ystod y contract wedi ei drosi perthnasol y mae’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf yn gymwys iddo, neu
(b)
sy’n bodloni’r amodau a ganlyn—
- (i)
cafodd y gwelliant ei wneud heb fod yn fwy nag un ar hugain o flynyddoedd cyn dyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf,
- (ii)
ar bob adeg yn ystod y cyfnod gan ddechrau pan gafodd y gwelliant ei wneud a chan ddod i ben ar ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, mae’r annedd wedi ei gosod o dan gontract wedi ei drosi perthnasol, tenantiaeth sicr neu feddiannaeth amaethyddol sicr, a
- (iii)
pan ddaw tenantiaeth sicr neu feddiannaeth amaethyddol sicr i ben, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw, nid ymadawodd y tenant na’r trwyddedai (neu, yn achos cyd-denantiaid neu gyd-drwyddedeion, o leiaf un ohonynt);
mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” gan adran 3 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
mae i “landlord” (“landlord”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 244(2));
mae i “meddiannaeth amaethyddol sicr” (“assured agricultural occupancy”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler paragraff 19 o Atodlen 12 i’r Ddeddf);ystyr “pwyllgor asesu rhenti” (“rent assessment committee”) yw pwyllgor asesu rhenti a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 197710;nid yw “rhent” (“rent”) yn cynnwys—
(a)
unrhyw dâl gwasanaeth o fewn ystyr adran 18 o Ddeddf Landlord a Thenant 198511, na(b)
unrhyw daliadau a waherddir o dan adran 4 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 201912,ond, yn ddarostyngedig i hynny, mae’n cynnwys unrhyw symiau sy’n daladwy gan y deiliad contract perthnasol i’r landlord am ddefnyddio dodrefn, mewn cysylltiad â’r dreth gyngor neu ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt yn adran 18(1)(a) o Ddeddf Landlord a Thenant 198513, pa un a yw’r symiau hynny ar wahân i’r symiau sy’n daladwy am feddiannu’r annedd o dan sylw neu’n daladwy o dan gytundebau ar wahân ai peidio;
(3)
Yn rheoliad 6 (rhagdybiaethau y mae rhaid i bwyllgor asesu rhenti bennu rhent yn unol â hwy)—
(a)
yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn y testun Cymraeg—
(i)
yn lle “gael ei osod”, rhodder “gael ei gosod”;
(ii)
yn lle “ymwneud â hi”, rhodder “ymwneud ag ef”;
(b)
yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “yr un math o gontract wedi ei drosi perthnasol ag”, rhodder “gontract meddiannaeth o’r un math â’r contract wedi ei drosi perthnasol”;
(c)
ym mharagraff (a), yn lle “wedi ei drosi perthnasol”, rhodder “meddiannaeth”;
(d)
ym mharagraff (c), yn lle “tenant neu’r trwyddedai perthnasol”, rhodder “tenant neu’r trwyddedai,”;
(e)
ym mharagraff (d)—
(i)
ar ôl “fethiant gan y”, hepgorer “tenant neu’r trwyddedai perthnasol neu’r”;
(ii)
ar ôl “delerau’r”, hepgorer “denantiaeth neu’r drwydded flaenorol berthnasol neu’r”;
(iii)
ar ôl “contract wedi ei drosi perthnasol”, rhodder “neu’r denantiaeth neu’r drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig”.
(4)
Yn rheoliad 8 (diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971)—
(a)
ym mharagraff (2)(b), sy’n mewnosod diffiniadau yn rheoliad 2 o Reoliadau 1971—
(i)
hepgorer y diffiniad o “relevant preceding tenancy or licence”;
(ii)
hepgorer y diffiniad o “relevant tenant or licensee”;
(iii)
yn y testun Cymraeg, yn y geiriau o flaen y diffiniad o “dwelling”, yn lle “mannau”, rhodder “lleoedd”;
(b)
ym mharagraff (4), yn y testun a fewnosodir yn rheoliad 3(3)(c) o Reoliadau 1971, hepgorer “, relevant tenant or licensee,”;
(c)
“(a)
yn lle “assured tenancies or assured agricultural occupancies”, rhodder “assured tenancies, assured agricultural occupancies or relevant converted contracts”,”.
(5)
“(a)
A ydych chi neu unrhyw gyn-denant(iaid) neu drwyddedai neu drwyddedeion wedi gwneud gwelliannau neu wedi amnewid gosodiadau, ffitiadau neu ddodrefn NAD oeddech chi nac hwythau yn gyfrifol amdanynt o dan delerau’r denantiaeth neu’r drwydded/y contract meddiannaeth?”.
Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/781 (Cy. 170)) (“Rheoliadau 2022”) yn gwneud darpariaeth i alluogi deiliad contract o dan gontract wedi ei drosi perthnasol i wneud cais i berson rhagnodedig bennu rhent, ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971 (O.S. 1971/1065).
Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwallau technegol a theipograffyddol yn Rheoliadau 2022.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.