Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2022
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2022.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Tachwedd 2022.
Diwygio Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 20222.
(1)
(2)
Yn Atodlen 1 (diwygiadau o ganlyniad i gychwyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016)—
(a)
(b)
(c)
(d)
“(a)
in regulation 2 (interpretation)—
(i)
after the definition of “the Common Travel Area”, omit “and”;
(ii)
for the full stop at the end of the definition of “the immigration rules”, substitute
“; and”;(iii)
after the definition of “the immigration rules”, insert—““secure contract” (“contract diogel”) has the same meaning as in the Renting Homes (Wales) Act 2016 (see section 8 of that Act).”
(3)
Yn Atodlen 2 (dirymiadau), yn y pennawd “Tabl 1”, hepgorer “1”.
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“Deddf 2016”) yn darparu y bydd y rhan fwyaf o denantiaethau a thrwyddedau ar gyfer anheddau y mae unigolion yn eu meddiannu fel cartrefi yng Nghymru yn gontractau meddiannaeth. Mae Deddf 2016 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch telerau contractau meddiannaeth.
Mae Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022 (O.S. 2022/907 (Cy. 198)) (“Rheoliadau 2022”) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth i adlewyrchu’r darpariaethau newydd yn Neddf 2016. Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro mân wallau technegol a theipograffyddol yn Rheoliadau 2022.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.