(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“Deddf 2016”) yn darparu y bydd y rhan fwyaf o denantiaethau a thrwyddedau ar gyfer anheddau y mae unigolion yn eu meddiannu fel cartrefi yng Nghymru yn gontractau meddiannaeth. Mae Deddf 2016 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch telerau contractau meddiannaeth.
Mae Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022 (O.S. 2022/907 (Cy. 198)) (“Rheoliadau 2022”) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth i adlewyrchu’r darpariaethau newydd yn Neddf 2016. Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro mân wallau technegol a theipograffyddol yn Rheoliadau 2022.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.