Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022I12
1
Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 20222 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 6 (diogelwch trydanol)—
a
ym mharagraff (3), yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “7 niwrnod”, rhodder “14 o ddiwrnodau”;
b
ym mharagraff (4), yn lle “7 niwrnod”, rhodder “14 o ddiwrnodau”;
c
ym mharagraff (5), yn lle “7 niwrnod”, rhodder “14 o ddiwrnodau”;
d
ym mharagraff (8), yn y diffiniad o “safonau diogelwch trydanol”, yn lle “BS 7671:2018+A1:2020”, rhodder “BS 7671:2018+A2:20223”.
3
Yn rheoliad 7 (cymhwyso i gontractau wedi eu trosi), ym mharagraff (5), ym mharagraff (4) a amnewidiwyd, yn lle “7 niwrnod”, rhodder “14 o ddiwrnodau”.