(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/6 (Cy. 4)) (“Rheoliadau 2022”) sy’n rhagnodi’r materion a’r amgylchiadau y mae rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio.
Mae rheoliad 2(2)(a) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 6(3) o Reoliadau 2022 fel bod gan y landlord 14 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu, i roi i’r deiliad contract gopi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol mwyaf diweddar a chadarnhad ysgrifenedig o unrhyw waith ymchwilio neu atgyweirio a wnaed ar osodiad gwasanaeth trydanol yn yr annedd, neu mewn perthynas â gosodiad o’r fath, ar ôl yr archwiliad diogelwch trydanol y mae’r adroddiad ar gyflwr trydanol yn ymwneud ag ef.
Mae rheoliad 2(2)(b) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 6(4) o Reoliadau 2022 fel bod gan y landlord, pan fo archwiliad diogelwch trydanol yn cael ei gynnal ar ôl y dyddiad meddiannu, 14 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr archwiliad diogelwch trydanol hwnnw, i roi i’r deiliad contract gopi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol sy’n ymwneud â’r archwiliad hwnnw.
Mae rheoliad 2(2)(c) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 6(5) o Reoliadau 2022 fel bod rhaid i’r landlord, pan fo gwaith ymchwilio neu atgyweirio yn cael ei wneud ar osodiad gwasanaeth trydanol yn yr annedd, neu mewn perthynas â gosodiad o’r fath, ar ôl y dyddiad meddiannu, roi i’r deiliad contract gadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith hwnnw o fewn 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafodd y landlord y cadarnhad.
Mae rheoliad 6(8) o Reoliadau 2022 yn cynnwys diffiniad o “safonau diogelwch trydanol” sy’n cyfeirio at y safonau ar gyfer gosodiadau gwasanaeth trydanol a nodwyd yn y deunawfed argraffiad o’r Rheoliadau Gosod Gwifrau sef y “Wiring Regulations”, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a’r Sefydliad Safonau Prydeinig fel BS 7671:2018+A1:2020. Mae rheoliad 2(2)(d) o’r Rheoliadau hyn yn diweddaru’r cyfeiriad hwnnw i’r fersiwn fwyaf diweddar a gyhoeddwyd yn 2022 gan y Sefydliad Safonau Prydeinig.
Mae rheoliad 7 o Reoliadau 2022 yn ymwneud â chymhwyso’r Rheoliadau hynny mewn perthynas â chontractau wedi eu trosi ac mae paragraff (5) o’r rheoliad hwnnw yn amnewid rheoliad 6(4) o Reoliadau 2022 mewn perthynas â’r contractau hynny. Mae rheoliad 2(3) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rheoliad 6(4) hwnnw a amnewidiwyd fel bod gan y landlord, pan fo archwiliad diogelwch trydanol yn cael ei gynnal ar ôl i adroddiad gael ei roi i’r deiliad contract o dan reoliad 6(3)(a) (fel y’i diwygiwyd gan reoliad 7(4) o Reoliadau 2022), 14 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr archwiliad diogelwch trydanol hwnnw, i roi i’r deiliad contract gopi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol sy’n ymwneud â’r archwiliad hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.