Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022
Yn unol ag adran 72(3) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chymdeithasau sy’n cynrychioli cynghorau siroedd a bwrdeistrefi sirol yng Nghymru, a’r cyfryw bersonau eraill, sy’n briodol yn eu barn hwy, mewn perthynas â’r diwygiad a wneir gan reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn.
Yn unol ag adran 142(3)(b)(i) a (ii) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Hydref 2022.
Ychwanegu disgrifiad pellach o berson ag angen blaenoriaethol am lety o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 20142.
“(k)
person—
(i)
sy’n ddigartref ac ar y stryd (o fewn ystyr adran 71(2)), neu
(ii)
y gellid disgwyl yn rhesymol i berson sy’n dod o fewn is-baragraff (i) breswylio gydag ef.”
Diwygio Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 20153.
“(k)
person—
(i)
sy’n ddigartref ac ar y stryd (o fewn ystyr adran 71(2)), neu
(ii)
y gellid disgwyl yn rhesymol i berson sy’n dod o fewn is-baragraff (i) breswylio gydag ef.”
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Tai (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) a Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio Deddf 2014 i bennu disgrifiad pellach o berson sydd ag angen blaenoriaethol am lety at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf honno. Mae’r Bennod honno yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau tai lleol i gynorthwyo pobl sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd.
Mae rheoliad 3 yn gwneud newid cyfatebol i Reoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.