2022 1069 (Cy. 225)
Tai, Cymru
Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 72(1)(c) a 78(1) o Ddeddf Tai (Cymru) 20141, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn2.
Yn unol ag adran 72(3) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chymdeithasau sy’n cynrychioli cynghorau siroedd a bwrdeistrefi sirol yng Nghymru, a’r cyfryw bersonau eraill, sy’n briodol yn eu barn hwy, mewn perthynas â’r diwygiad a wneir gan reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn.
Yn unol ag adran 142(3)(b)(i) a (ii) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.