Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Hadau, Cymru
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
26 Medi 2022
Gwnaed
4 Hydref 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
6 Hydref 2022
Yn dod i rym
27 Hydref 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 a deuant i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y’u gosodir.
2.—(1) Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2—
(a)ym mharagraff A1 (dehongli)—
(i)yn y diffiniad o “pla cwarantin parth gwarchodedig”, yn lle “pla cwarantin parth gwarchodedig” (“protected zone quarantine pest”) rhodder “pla cwarantin ardal sy’n rhydd rhag plâu” (“PFA quarantine pest”)”;
(ii)yn y diffiniad o “PRHG”, yn lle “yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”;
(iii)yn y diffiniad o “pla cwarantin yr Undeb”, yn lle “pla cwarantin yr Undeb” (“Union quarantine pest”)” rhodder “pla cwarantin Prydain Fawr” (“GB quarantine pest”)”.
(b)ym mharagraffau 15, 28, 42 a 50 (gofynion cnydau a hadau), ym mhob lle y maent yn digwydd—
(i)yn lle “parth gwarchodedig” rhodder “ardal sy’n rhydd rhag plâu”;
(ii)yn lle “yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “PRHG”, yn lle “yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
4 Hydref 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 a Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2018 p. 16. Gweler adran 20(1) am y diffiniad o “devolved authority”.
O.S. 2012/245 (Cy. 39). Mewnosodwyd paragraff A1 o Atodlen 2 gan O.S. 2020/833 (Cy. 182). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2017/691 (Cy. 163). Mewnosodwyd y diffiniad o “PRHG” gan O.S. 2020/833 (Cy. 182). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.