2022 Rhif 1021 (Cy. 217)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Hadau, Cymru

Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022

Gofynion sifftio wedi eu bodloni
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181.

Enwi a chychwyn1.

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 a deuant i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y’u gosodir.

Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 20122.

(1)

Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 20122 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn Atodlen 2—

(a)

ym mharagraff A1 (dehongli)—

(i)

yn y diffiniad o “pla cwarantin parth gwarchodedig”, yn lle “pla cwarantin parth gwarchodedig” (“protected zone quarantine pest”) rhodder “pla cwarantin ardal sy’n rhydd rhag plâu” (“PFA quarantine pest”)”;

(ii)

yn y diffiniad o “PRHG”, yn lle “yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”;

(iii)

yn y diffiniad o “pla cwarantin yr Undeb”, yn lle “pla cwarantin yr Undeb” (“Union quarantine pest”)” rhodder “pla cwarantin Prydain Fawr” (“GB quarantine pest”)”.

(b)

ym mharagraffau 15, 28, 42 a 50 (gofynion cnydau a hadau), ym mhob lle y maent yn digwydd—

(i)

yn lle “parth gwarchodedig” rhodder “ardal sy’n rhydd rhag plâu”;

(ii)

yn lle “yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”.

Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 20173.

(1)

Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 20173 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “PRHG”, yn lle “yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.

Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 a Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.