Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Made
6 Medi 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
8 Medi 2021
Yn dod i rym
29 Medi 2021
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 29 Medi 2021.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 29.9.2021, gweler rhl. 1
2.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2)(a), yn lle “30 Medi 2021” rhodder “30 Medi 2022”.
(3) Yn rheoliad 2(2), yn lle “30 Medi 2021” rhodder “30 Medi 2022”.
(4) Yn rheoliad 4(a), yn lle “1 Hydref 2021” rhodder “1 Hydref 2022”.
(5) Yn rheoliad 4(b), yn lle “30 Medi 2021” rhodder “30 Medi 2022”.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 29.9.2021, gweler rhl. 1
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
6 Medi 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020 (“Rheoliadau 2020”).
Diwygiodd Rheoliadau 2020 Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 er mwyn caniatáu, o dan amgylchiadau penodol sy’n ymwneud â mynychder neu drosglwyddiad y coronafeirws,—
(a)panelau apêl a chanddynt ddau aelod, a
(b)i banelau apêl gynnal gwrandawiadau drwy fynediad o bell neu benderfynu apelau ar sail gwybodaeth ysgrifenedig.
Mae rheoliad 2(2) o Reoliadau 2020 yn darparu bod y diwygiadau hynny yn peidio â chael effaith ar 31 Ionawr 2021. Diwygiwyd y dyddiad hwnnw i 30 Medi 2021 gan Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2020.
Prif effaith rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yw diwygio’r dyddiad 30 Medi 2021 yn Rheoliadau 2020 i 30 Medi 2022. Golyga hyn fod y diwygiadau a wneir gan Reoliadau 2020 yn parhau i gael effaith tan 30 Medi 2022.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1998 p. 31; gweler adran 142(1) am y diffiniadau o “the Assembly”, “prescribed” a “Regulations”. Amnewidiwyd is-adran (5) o adran 94, a mewnosodwyd is-adran (5A) yn adran 94, gan adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). Amnewidiwyd is-adran (3) o adran 95, a mewnosodwyd is-adran (3A) yn adran 95, gan baragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf Addysg 2002.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2020/479 (Cy. 110), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1606 (Cy. 333).