2021 Rhif 996 (Cy. 232)
Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021

Made
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94(5) a (5A), 95(3) a (3A) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19981 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn1.

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 29 Medi 2021.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 29.9.2021, gweler rhl. 1

Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 20202.

(1)

Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 20203 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 1(2)(a), yn lle “30 Medi 2021” rhodder “30 Medi 2022”.

(3)

Yn rheoliad 2(2), yn lle “30 Medi 2021” rhodder “30 Medi 2022”.

(4)

Yn rheoliad 4(a), yn lle “1 Hydref 2021” rhodder “1 Hydref 2022”.

(5)

Yn rheoliad 4(b), yn lle “30 Medi 2021” rhodder “30 Medi 2022”.

Annotations:
Commencement Information

I2Rhl. 2 mewn grym ar 29.9.2021, gweler rhl. 1

Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020 (“Rheoliadau 2020”).

Diwygiodd Rheoliadau 2020 Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 er mwyn caniatáu, o dan amgylchiadau penodol sy’n ymwneud â mynychder neu drosglwyddiad y coronafeirws,—

(a)

panelau apêl a chanddynt ddau aelod, a

(b)

i banelau apêl gynnal gwrandawiadau drwy fynediad o bell neu benderfynu apelau ar sail gwybodaeth ysgrifenedig.

Mae rheoliad 2(2) o Reoliadau 2020 yn darparu bod y diwygiadau hynny yn peidio â chael effaith ar 31 Ionawr 2021. Diwygiwyd y dyddiad hwnnw i 30 Medi 2021 gan Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2020.

Prif effaith rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yw diwygio’r dyddiad 30 Medi 2021 yn Rheoliadau 2020 i 30 Medi 2022. Golyga hyn fod y diwygiadau a wneir gan Reoliadau 2020 yn parhau i gael effaith tan 30 Medi 2022.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.