Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 996 (Cy. 232)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021

Made

6 Medi 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

8 Medi 2021

Yn dod i rym

29 Medi 2021

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94(5) a (5A), 95(3) a (3A) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

(1)

1998 p. 31; gweler adran 142(1) am y diffiniadau o “the Assembly”, “prescribed” a “Regulations”. Amnewidiwyd is-adran (5) o adran 94, a mewnosodwyd is-adran (5A) yn adran 94, gan adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). Amnewidiwyd is-adran (3) o adran 95, a mewnosodwyd is-adran (3A) yn adran 95, gan baragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf Addysg 2002.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).