Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 977 (Cy. 231)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) (Rhif 2) 2021

Gwnaed

2 Medi 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

3 Medi 2021

Yn dod i rym

29 Medi 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) (Rhif 2) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Medi 2021.

Diwygio Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

2.  Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021(2), yn lle “30 Medi 2021” rhodder “31 Rhagfyr 2021”.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

2nd September 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)).

Mae rheoliad 2 yn diwygio’r dyddiad yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/1 (Cy. 1)) er mwyn estyn effaith y Rheoliadau hynny, sydd, mewn perthynas â mewnforion sy’n tarddu o sefydliadau a leolir yn Aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaro, yr Ynys Las neu’r Swistir, neu a gynhyrchir ynddynt, yn atal dros dro y gofyniad i baratoadau cig a fewnforir i Gymru fod wedi eu rhewi’n ddwfn. Gosodir y gofyniad hwnnw gan Erthygl 3(3) o Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC dyddiedig 8 Medi 2000 sy’n gosod yr amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystio milfeddygol ar gyfer mewnforio paratoadau cig i’r Gymuned o drydydd gwledydd (EUDN 2000/572). Estynnir yr ataliad hyd hanner nos ar 31 Rhagfyr 2021. Cafodd y dyddiad ei ddiwygio yn flaenorol gan Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/376 (Cy. 117)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

O.S. 2011/2379 (Cy. 252). Mewnosodir paragraff 11A o Atodlen 2 gan reoliad 2(2) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1639 (Cy. 344)).

(2)

O.S. 2021/1 (Cy. 1), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2021/376 (Cy. 117).