Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn—
ei gwneud yn glir fod y cyfeiriad yn y mesur rhesymol a restrir yn is-baragraff (a)(ii) o dan Gam 3 o reoliad 16(1) o’r prif Reoliadau at atal “unrhyw berson sydd wedi cael cysylltiad agos yn y 10 niwrnod blaenorol â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws” yn gyfeiriad at y cysylltiadau agos hynny y mae’n ofynnol iddynt ynysu yn unol â rheoliad 8(2) o’r prif Reoliadau yn unig;
diwygio’r gofyniad ar y rheini sy’n gyfrifol am ymgyrchu mewn etholiad i gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, neu o ledaenu’r coronafeirws, fel ei fod yn adlewyrchu’n agosach ofynion tebyg a osodir ar bersonau sy’n gyfrifol am fangreoedd;
dileu’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb wrth fynd i briodas, partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall;
hepgor Rhan 6 o’r prif Reoliadau, sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau pan fo rhaid i ysgolion fod ar agor pan fyddant ar gau fel arall i ganiatáu i blant gweithwyr hanfodol neu blant sy’n agored i niwed fynychu.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.