Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2021
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Awst 2021.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202.
(1)
(2)
Yn rheoliad 16(1), o dan y pennawd “Cam 3”, yn is-baragraff (a)(ii), yn lle “sydd wedi cael cysylltiad agos yn y 10 niwrnod blaenorol â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws” rhodder “y mae’n ofynnol iddo beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 8(2)”.
(3)
Yn rheoliad 18A(2)—
(a)
hepgorer is-baragraff (a);
(b)
yn is-baragraff (b), yn y geiriau o flaen paragraff (i), yn lle “mesurau eraill sy’n cyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb agos ac yn cynnal” rhodder “mesurau sy’n cyfyngu ar ryngweithio corfforol agos rhwng personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad, yn benodol rhyngweithio wyneb yn wyneb, a mesurau i gynnal”.
(4)
“(aa)
pan fo P yn mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall;”.
(5)
Hepgorer Rhan 6.
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn—
ei gwneud yn glir fod y cyfeiriad yn y mesur rhesymol a restrir yn is-baragraff (a)(ii) o dan Gam 3 o reoliad 16(1) o’r prif Reoliadau at atal “unrhyw berson sydd wedi cael cysylltiad agos yn y 10 niwrnod blaenorol â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws” yn gyfeiriad at y cysylltiadau agos hynny y mae’n ofynnol iddynt ynysu yn unol â rheoliad 8(2) o’r prif Reoliadau yn unig;
diwygio’r gofyniad ar y rheini sy’n gyfrifol am ymgyrchu mewn etholiad i gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, neu o ledaenu’r coronafeirws, fel ei fod yn adlewyrchu’n agosach ofynion tebyg a osodir ar bersonau sy’n gyfrifol am fangreoedd;
dileu’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb wrth fynd i briodas, partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall;
hepgor Rhan 6 o’r prif Reoliadau, sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau pan fo rhaid i ysgolion fod ar agor pan fyddant ar gau fel arall i ganiatáu i blant gweithwyr hanfodol neu blant sy’n agored i niwed fynychu.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.