Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.
Mae rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn atal personau nad ydynt yn esempt rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau hynny o fewn 10 niwrnod i gyrraedd.
Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 12E er mwyn caniatáu i fyfyrwyr penodol o dan 18 oed sydd wedi bod yn flaenorol mewn gwlad a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gael mynediad i Gymru. Mae’r personau hynny yn ddarostyngedig i ofynion ynysu penodol.
Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn ychwanegu Canada, Denmarc, y Ffindir, Liechtenstein, Lithwania, y Swistir, ac ynysoedd Açores at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn ychwanegu Gwlad Thai a Montenegro at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol.
Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn diweddaru’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig. Caiff unigolyn adael ynysiad er mwyn cystadlu neu hyfforddi mewn digwyddiad chwaraeon a bennir yn Atodlen 4, neu er mwyn darparu hyfforddiant neu gymorth arall i berson sy’n cystadlu mewn digwyddiad o’r fath.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.